Ysgol Maes Y Gwendraeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ysgol Maes Y Gwendraeth
Arwyddair Cyfoeth Bywyd Addysg
Sefydlwyd 2013
Math Ysgol Gyfun
Prifathro Mr Wyn Evans
Lleoliad 24 Heol Y Parc
Cefneithin
Sir Gaerfyrddin
SA14 7DT
Cymru Cymru
Awdurdod lleol Cyngor Sir Gâr
Rhyw Merched a Bechgyn
Ystod oedran 11–19
Gwefan maesygwendraeth.org

Mae Ysgol Maes Y Gwendraeth yn ysgol uwchradd ddwyieithog ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 18 oed, a leolir yn Cefneithin, Sir Gaerfyrddin. Agorwyd yr ysgol yn dilyn uno Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol Y Gwendraeth yn 2013. Yn 2017, roedd 841 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 157 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol o ddydd i ddydd a hithau yw iaith weinyddol a chymdeithasol yr ysgol. Mae'r ysgol wedi'i gategoreiddio yn ieithyddol gan Lywodraeth Cymru fel ysgol categori 2A. Mae'n golygu bod o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl. Fodd bynnag, mae un neu ddau o bynciau yn cael eu haddysgu i rai o’r disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a’r llall. Mae'r ysgol yn datgan bod yr holl bynciau yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac eithrio Saesneg a Gwyddoniaeth (sy'n cael eu haddysgu yn newis iaith y disgyblion o Flwyddyn 8 ymlaen).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]