Ysgol Gynradd Mornant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ysgol gynradd Gymraeg ym Mhicton ger Treffynnon, Sir Fflint yw Ysgol Gynradd Mornant, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Sefydlwyd yr ysgol ym mis Mai 1953 odan yr enw Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw, symudwyd hi i’r adeilad presennol ym 1972 ac adeiladwyd estyniad ym mis Tachwedd 2000.[1][2] Bu Rhys Jones yn brifathro'r ysgol yn fuan wedi ei sefydlu.[3]

Daw mwyafrif y disgyblion o’r pentrefi cyfagos, megis Penyffordd, Gwespyr, Ffynnongroyw a Threlogan ond daw rhai o Brestatyn, Treffynnon a Llanelwy.[1] Roedd 106 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2002,[1] a 79 yn 2008.[2] Daw'r rhanfwyaf o'r disgyblion o gartrefi ble mae'r Saesneg yn brif iaith, ond siaradai tua 57% o'r plant y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[2]

Enillodd yr ysgol wobr "Yellow Woods" ym mis Mawrth 2008, am eu rhan yn ailgylchu hen gyfeiriaduron ffôn, gan dderbyn clod arbennig am eu ymdrechion.[4]

Arwyddair yr ysgol yw Dwy iaith - dwy waith y dewis.[1]

Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Maes Garmon.

Mae'r cantores a'r awdures Caryl Parry Jones yn un o gyn-ddisgyblion yr ysgol.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Adroddiad Arolygiad 9–12 Rhagfyr 2002. Estyn (15 Chwefror 2002).
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg)  Adroddiad Arolygiad 23 Medi 2008. Estyn (15 Chwefror 2002).
  3.  Y Glannau: Derwen lle bu'r fesen fach. BBC Lleol: Gogledd Ddwyrain (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  4.  School scoops recycling awards (31 Mawrth 2008).
  5.  Proffil: Caryl Parry Jones Cantores a Bardd. Plant Ar-lein.
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.