Ysgol Gymunedol Swyddffynnon

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymunedol Swyddffynnon
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion, Cymru Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd yn Swyddffynnon oedd Ysgol Gymunedol Swyddffynnon, mae tua 5 milltir i'r gogledd o Dregaron a 2 filltir i'r de orllewin o Ystrad Meurig. Disgynodd y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol o 29 i 9 rhwng 2002 a 2006. Daeth 1 allan o 3 o'r disgyblion o gartrefi lle roedd Saesneg yn brif iaith yr aelwyd. Er hyn nôd yr ysgol oedd i addysgu'r plant i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.[1] Aeth y plant ymlaen i fynychu Ysgol Uwchradd Tregaron.

Agorwyd yr ysgol yn 1896, yn ôl adroddiad o'r ysgol yn 1905 roedd lle i 124 o ddisgyblion yn yr ysgol, roedd 105 o ddisgyblion yno yn 1904 gyda cyfartaledd o 80 yn mynychu pob dydd.[2]

Cyhoeddwyd lluniau o ddisgyblion yr Ysgol yn 1906, 1923, 1928 a 1952 ym mhapur bro Y Barcud.[3]

Caewyd yr ysgol ym mis Gorffennaf 2006.[4]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Adroddiad Estyn 2006
  2. "Hen gofnodion yr Ysgol, Archifdy Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-10-24.
  3. "Mynegai papurau bro ar wefan Cyngor Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2007-10-24.
  4. Pupil shortage closes primaries BBC 21 Gorffennaf 2006
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.