Ysgol Gymraeg Glan Ceubal
| Enghraifft o: | ysgol gynradd, ysgol Gymraeg |
|---|---|
| Rhanbarth | Gabalfa |
| Dynodwyr | |
Ysgol gynradd addysg Gymraeg yw Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Ceubal. Mae'r ysgol wedi ei lleoli ym maestref Gabalfa yng Nghaerdydd. Mae hi'n un or ysgolion gynradd sy'n ffrydio Ysgol Gyfun Gymreg Glantaf sydd wedi ei lleoli yn yr un stâd dai. Yn 2023 roedd 199 disgybl yn yr ysgol.[1]
Gwybodaeth
[golygu | golygu cod]

Mae'r ysgol yn rhannu'r un safle ag ysgol cyfrwng Saesneg, Gabalfa Primary School. Adeiladwyd y safle gwerth £8.2 miliwn fel rhan o raglen Ysgolion yr 21g, er iddo wynebu oedi byr pan agorodd gyntaf. Bu i'r ddwy ysgol dderbyn buddsoddiad mewn adeiladwaith ac adnoddau gan weld cwblhau'r gwaith yn 2026.[2] O'r 199 disgybl yn yr ysgol yn 2023 roedd 132 yn rhai oedran addysg staduduol a 48 yn y meithrin. Roedd 15% yn derbyn prydau ysgol am ddim ac 16.7% yn sirad Cymraeg ar yr aelwyd.[1]
Pennaeth yr ysgol yn 2025-26 yw Sian Eleri Fudge. Arwyddair yr ysgol yw "Tyfu, Dysgu, Llwyddo".
Cafwyd arolygiad gan Estyn yn 2023 a nododd fod yr ysgol yn "cymuned groesawgar a thosturiol sy'n blaenoriaethu lles ei myfyrwyr".[3]
Uned Drochi Iaith
[golygu | golygu cod]Yn 2018 agorwyd Uned Drochi Iaith ar safle'r ysgol. Bu i'r uned symud o sawl safle cyn hynny cyn cartrefu'n barhaol ar safle Ysgol Glan Ceubal. Rhwng 2010 a 2024 mae dros 400 o ddisgyblion wedi mynychu'r uned trochi yn y Gymraeg ac mae dros 91% ohonynt wedi trosglwyddo'n barhaol i ysgolion cyfrwng Cymraeg y Sir, gan ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn ogystal â datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Ceubal". Estyn. 2023.
- ↑ "Gabalfa play park officially reopens after refurbishment". Cardiff News. 16 Mehefin 2026.
- ↑ "Ysgol Glan Ceubal, cymuned groesawgar a thosturiol sy'n blaenoriaethu lles ei myfyrwyr". Gwefan Cyngor Dinas Caerdydd. Cyrchwyd 12 Medi 2023.
- ↑ "Uned Drochi Iaith Caerdydd". Gwefan Trochi Iaith. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2026.
Dolenni allannol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Ceubal
- @YsgolGlanCeubal Cyfrif Instagram yr Ysgol