Ysgol Gymraeg Cwm Derwen
| Math | ysgol Gymraeg, ysgol gynradd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Coed-duon |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.68102°N 3.17867°W |
| Cod post | NP12 0JL |
| Niferoedd | 200 |
![]() | |
Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Oakdale, ger Coed-duon, Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ganddi oddeutu 200 o ddisgyblion gyda phob un ohonynt yn 2023 yn dod o gartrefi lle nad Cymraeg oedd iaith yr aelwyd.[1] Cyfeiriad yr ysgol yw Beech Grove, Oakdale, y Coed Duon, NP12 0JL.
Yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2023, canfu tîm o arolygwyr Estyn fod Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol “hollol gynhwysol” sy’n hyrwyddo positifrwydd o fewn eu hethos a’u hamgylchedd. Prifathrawes yr ysgol yn 2024 oedd Mrs Matthews.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ysgol Gymraeg Cwm Derwen oedd degfed ysgol Gymraeg Cyngor Caerffili. Cyhoeddwyd cynlluniau i'w hagor er mwyn cynyddu'r galw am addysg Gymraeg yn 2007.[3]
Penderfynwyd agor yr ysgol newydd i 250 o ddisgyblion ar hen safle ysgol iau Rhiw Syr Dafydd. Cymeradwyodd cabinet y cyngor wariant o £200,000 ar addasu'r adeilad gwag. Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Coed-duon, Oakdale, Rhiw Syr Dafydd, Pontllanfraith, Ynys-ddu a Chwmfelinfach, oedd yn arfer dod o fewn ardal deithio Ysgol Gymraeg Trelyn.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adroddiad Estyn, Estyn, 2024, https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2024-01/Rhieni%20a%20gofalwyr%20-%20Adroddiad%20arolygiad%20-%20Ysgol%20Gymraeg%20Cwm%20Derwen%202024.pdf, adalwyd 30 Hydref 2024
- ↑ "Caerphilly primary school commended for inclusivity". South Wales Argus. 5 Chwefror 2024.
- ↑ "New Welsh medium school being planned". Wales Online. 7 Chwefror 2007.
- ↑ "Welsh school set for green light". South Wales Argus. 4 Medi 2007.
