Ysgol Gyfun Sant Cyres
Ysgol Gyfun Sant Cyres | |
---|---|
St Cyres Comprehensive School | |
Arwyddair | Strive Together, Challenge Yourself, Realise Everyone can Succeed |
Ystyr yr arwyddair | Ymdrechu Ynghyd, Heriwch eich Hunain, Sylweddolwch gall Bawb Lwyddo |
Sefydlwyd | 1958 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Brian P Lightman |
Cadeirydd | Mrs A Males OBE |
Arbenigedd | Sefydliad yn Rhaglen Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol |
Lleoliad | Clos Sant Cyres, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 2XP |
AALl | Bro Morgannwg |
Staff | tua 130 |
Disgyblion | 1,479 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Coch a du |
Gwefan | stcyres.valeofglamorgan.sch.uk |
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mhenarth, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Sant Cyres (Saesneg: St Cyres Comprehesive School).
Ar y funud, mae gan yr ysgol 1,479 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed gan gynnwys 251 yn y chwechedd ddosbarth, Mae'r ysgol wedi ei rannu rhwn dwy safle yn bresennol, gyda tua 1,100 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 yn y brif safle ar gyrion tref Penarth, ac adeilad arll rhyw 2.5 milltir i ffwrdd yn Ninas Powys sy'n gartref i rhwng 300 a 400 o ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9.[1]
Bydd y prifathro presennol Mr Brian P Lightman yn gadael yr ysgol ym mis Medi 2010, wedi blwyddyn mewn secondiad i ddod yn ysgrifennydd cyffredinol yr ASCL (Association of School and College Leaders), yn cynyrchioli dros 14,000 o aelodau.[2]
Hanes[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd yr ysgol ym 1958, Ysgol Uwchradd Fodern Sant Cyres (St Cyres Secondary Modern School) oedd enw'r ysgol yn wreiddiol, cyn iddi gael ei throi'n ysgol gyfun.
Bagloriaeth Cymru[golygu | golygu cod]
Roedd Ysgol Gyfun Sant Cyres yn un o ddau ganolfan peilot ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn 2005/2006, ynghyd ag Coleg Llandrillo Cymru. Bu tua 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y peilot yn Llandrillo.[3]
Talgylch yr ysgol[golygu | golygu cod]
Y prif ysgolion yn nhalgylch Sant Cyres ydy Ysgol Gynradd Llandough, Ysgol Gynradd Sirol Fairfield, Ysgol Gynradd Cogan ac ysgolion cynradd Dinas Powys. Daw 20% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol yn l dewis y rhieni.
Bathodyn yr ysgol[golygu | golygu cod]
Mae arfbais yr ysgol yn chwarteri gyda symbol wahanol ym mhob chwarter:
Cyn-ddisgyblion o nôd[golygu | golygu cod]
- David Davies - nofiwr
- Tanni Grey-Thompson DBE - athletwraig Paralympaidd
- Jamie Ringer - chwaraewr rygbi'r undeb
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Hydref 2009) Gam yn nes at un safle ar gyfer ysgol, Rhifyn 25. Llais y Fro. URL
- ↑ Darren Evans (16 Ionawr 2010). Profile Cymru: The quiet confidence and commitment that persuaded a union to see the Lightman. TES Cymru.
- ↑ Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (18 Hydref 2006).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan Ysgol Gyfun Sant Cyres Archifwyd 2010-07-30 yn y Peiriant Wayback.