Neidio i'r cynnwys

Ysgol Cynddelw

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Cynddelw
Enghraifft o:ysgol gynradd Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd dwyieithog yng Nglyn Ceiriog ger Llangollen yw Ysgol Cynddelw, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Agorwyd yr ysgol ym 1982.[1] Enwir yr ysgol ar ôl Cynddelw Brydydd Mawr, un o'r enwocaf o Feirdd y Tywysogion.

Yn 2004, roedd 112 o blant yn yr ysgol, mae 152 lle yn swyddogol. Yn ôl arolygiad Estyn 2004, Saesneg oedd prif iaith 93% o'r disgyblion, a Chymraeg 7%, ond gall 40% o'r disgyblion siarad y Gymraeg i safon iaith gyntaf. Roedd hyn yn gynydd arwyddocaol ers yr arolygiad diwethaf ym 1998.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1  Adroddiad Arolygiad 9–12 Chwefror 2004. Estyn (14 Ebrill 2004).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.