Ysgol Bro Idris
Mae Ysgol Bro Idris,[1] Dolgellau yn ysgol ardal a sefydlwyd ar 1 Medi 2017 i ddarparu addysg i fechgyn a merched o oed meithrin i flwyddyn 11 (3-16 oed). Prif gampws yr ysgol yw'r cyn ysgol gyfun Ysgol y Gader. Sefydlwyd Ysgol y Gader ym 1962, fel olynydd cyfun i Ysgol Sirol y Bechgyn, Dolgellau a sefydlwyd ym 1890. Roedd yr Ysgol Sirol yn olynydd i Ysgol Ramadeg Dolgellau a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1665, dan nawdd ewyllys John Ellis (archddiacon Meirionnydd)
Yn ogystal ag Ysgol y Gader, daeth 8 cyn ysgol gynradd hefyd yn rhan o Ysgol Bro Idris:[2] Ysgol Gynradd Llanelltyd; Ysgol Brithdir; Ysgol Friog; Ysgol Gynradd Dolgellau; Ysgol Dinas Mawddwy; Ysgol Ganllwyd; Ysgol Ieuan Gwynedd; Ysgol Y Clogau. Wrth sefydlu'r ysgol ardal caewyd safleoedd Ysgol y Clogau,[3] Ysgol Brithdir[4] ac Ysgol Ganllwyd[5]. Mae'r pump cyn ysgol eraill yn parhau i fod yn safleoedd adran iau ysgol Bro Idris[6]


Cyn-ddisgyblion o nod
[golygu | golygu cod]- Yn ôl y sôn Hugh Owen, Bronclydwr[7]
- Robert Oliver Rees.[8]
- Edward Jones - meddyg ac arweinydd llywodraeth leol [9]
- Syr Cadwaladr Bryner Jones academydd a gwas sifil oedd yn arbenigo mewn ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol
- Llewelyn Wyn Griffith Awdur, bardd a darlledwr
- J. O. Jones (actor)
- Alun Elidyr Actor a chyflwynydd
- Elfyn Evans Gyrrwr rali
- Gwyndaf Evans Gyrrwr rali
- Bethan Gwanas Awdur
- Arfon Gwilym Canwr Gwerin
- Eilir Jones Digrifwr
- Ywain Myfyr Cerddor a sylfaenydd Sesiwn Fawr Dolgellau
- Dyfan Roberts Actor
- Martin Phillips Pencampwr dartiau
- Judith Humphreys Actor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ysgol Bro Idris - GOV.UK". get-information-schools.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-23.
- ↑ BBC Cymru Fyw: Gwrthwynebu symud plant i safle uwchradd yn Nolgellau
- ↑ Trewyn, Hywel (2015-07-20). "Staffing crisis could force Dolgellau school to shut its doors a year early". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-23.
- ↑ BBC Cymru Fyw Mae'r ysgol fechan wedi cau
- ↑ "Former pupils say goodbye to Ysgol Ganllwyd". Cambrian News (yn Saesneg). 2017-07-18. Cyrchwyd 2026-01-23.
- ↑ Ysgol Bro Idris-Safleoedd
- ↑ Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd (nb ffynhonnell annibynadwy)
- ↑ "REES, ROBERT OLIVER (1819 - 1881), fferyllydd, cyhoeddwr llyfrau, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-09-11.
- ↑ "JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-19.