Ysgol Bro Hedd Wyn
Jump to navigation
Jump to search
Math | ysgol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Cymru ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.901083°N 3.922925°W ![]() |
![]() | |
Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Trawsfynydd, Gwynedd yw Ysgol Bro Hedd Wyn. Mae'n un o 6 ysgol yn nalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Fe'i henwir ar ôl y bardd enwog Hedd Wyn, a aned a magwyd yn Nhrawsfynydd. O ganlyniad, dangosa fathodyn yr ysgol ddarlun o gofgolofn Hedd Wyn. Ceir yn yr adeilad 5 ystafell ddosbarth a neuadd ganolog yn ogystal â ffreutur.
Mae 78 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ôl ffigyrau diweddaraf (Medi 2012)[1] o'i gymharu ag 86 yn 2008.[2] Pennaeth presennol yr ysgol, ers Medi 2000, yw Mrs Heulwen Hydref Jones.
Cyn-ddisgyblion Nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hedd Wyn - bardd
- Iwan Roberts - actor, telynegwr a chanwr
- Dewi Prysor - awdur a bardd
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyngor Gwynedd[dolen marw]
- ↑ "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2008-10-23.