Ysgol-lys arennaidd

Oddi ar Wicipedia
Ysgol-lys arennaidd
Nardia geoscyphus
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Jungermanniaceae
Genws: Nardia
Rhywogaeth: N. geoscyphus
Enw deuenwol
Nardia geoscyphus

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ysgol-lys arennaidd (enw gwyddonol: Nardia geoscyphus; enw Saesneg: earth-cup flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr.

Dyma rywogaeth unigryw! Anaml y mae llawer ohoni. Mae i'w chael gan amlaf ar lannau o bridd ysgafn, cyfoethog yn yr ucheldiroedd (er enghraifft ar glogwyni calchaidd), ond weithiau mae'n tyfu ar bridd llaith a graeanog mewn chwareli segur.

O ran maint, mae'r egin yn 0.5–1.5 mm o led a hyd at 2 cm o hyd, gyda'r dail yn aml yn gorgyffwrdd, gydag ymyl y cefn prin yn ymestyn o dan y coesyn.

Mae'r dail wedi'u talgrynnu i siâp aren (sylwer ar enw'r rhywogaeth), fel arfer yn llawer mwy llydan nag o hyd: hyd at 1.2 mm o led a 0.8 mm o hyd.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Ysgol-lys arennaidd gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.