Yr hawl i fywyd

Oddi ar Wicipedia
Yr hawl i fywyd
Enghraifft o'r canlynolhawliau dynol Edit this on Wikidata
Cysylltir gyday gosb eithaf, erthyliad, ewthanasia, right-to-life movement Edit this on Wikidata

Yr hawl i fywyd yw'r gred bod gan berson yr hawl i fyw ac, yn benodol, na ddylai endid arall - gan gynnwys y llywodraeth - ei ladd. Mae'r cysyniad o hawl i fywyd yn codi mewn dadleuon ar faterion y gosb eithaf, rhyfel, erthyliad, ewthanasia, creulondeb yr heddlu, lladdiad y gellir ei gyfiawnhau, a hawliau anifeiliaid. Gall unigolion anghytuno ar ba feysydd y mae'r egwyddor hon yn berthnasol, gan gynnwys y materion a restrir uchod. Cyhoeddodd Dafydd Iwan gân Yr Hawl i Fyw'.

Erthyliad[golygu | golygu cod]

Defnyddir y term "hawl i fywyd" yn y ddadl ar erthyliad gan y rhai sy'n dymuno dod â'r arfer o erthyliad i ben, neu o leiaf leihau amlder yr arfer, Yng nghyd-destun beichiogrwydd, daeth y term hawl i fywyd oedd yn fwy amlwg oherwydd ei ddefnydd gan y Pab Pius XII yn 1951:

Rhodd gan Dduw i bob bod dynol, hyd yn oed i bob plentyn yn y groth, yw'r hawl i fywyd - nid rhodd gan ei rieni, nid gan unrhyw gymdeithas nac awdurdod dynol... --- Pab Pius XII, Anerchiad i Fydwragedd ar Natur eu Proffesiwn, Hydref 29, 1951.[1]

Yr Arlywydd Ronald Reagan yn cwrdd â chynrychiolwyr y mudiad Hawl i Fyw, 1981

Yn 1966 gofynnodd Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig (NCCB) i Fr. James T. McHugh i ddechrau arsylwi ar y tueddiadau ar ddiwygio hawliau a chyfreithiau'n ymwneud ag erthyliad yn yr Unol Daleithiau.[2] Sefydlwyd y Pwyllgor Hawl i Fyw Cenedlaethol (NRLC) ym 1967 fel "y Gynghrair Hawl i Fyw" i gydlynu ei ymgyrchoedd gwladol o dan adain Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig.[3][4] Cynigiodd arweinwyr allweddol Minnesota fodel sefydliadol a fyddai’n gwahanu’r NRLC oddi wrth oruchwyliaeth Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig. Erbyn dechrau 1973 cynigiwyd cynllun gwahanol, gan hwyluso symudiad NRLC tuag at ei annibyniaeth oddi wrth yr Eglwys Babyddol .

Moeseg a hawl i fywyd[golygu | golygu cod]

Mae rhai moesegwyr iwtilitaraidd yn dadlau bod yr "hawl i fywyd", yn dibynnu ar amodau heblaw aelodaeth o'r rhywogaeth ddynol. Mae'r athronydd Peter Singer yn gefnogwr nodedig o'r ddadl hon. I Singer, mae'r hawl i fywyd wedi'i seilio ar y gallu i gynllunio a rhagweld dyfodol rhywun. Mae hyn yn ymestyn y cysyniad i anifeiliaid nad ydynt yn ddynol, fel epaod eraill, ond gan nad oes gan fabanod heb eu geni, babanod na phobl ag anabledd difrifol yr hawl i fywyd, mae'n nodi y gellir cyfiawnhau erthyliad, babanladdiad di-boen ac ewthanasia (ond nid ydynt yn orfodol) o dan amgylchiadau arbennig, er enghraifft yn achos baban anabl y byddai ei fywyd yn un o ddioddefaint,[5] neu os nad oedd ei rieni am ei godi ac nad oedd unrhyw un eisiau ei fabwysiadu. 

Y gosb eithaf[golygu | golygu cod]

Mae gwrthwynebwyr y gosb eithaf yn dadlau ei fod yn torri’r hawl i fywyd, tra bod cefnogwyr y gosb eithaf yn dadlau nad yw’r gosb eithaf yn groes i’r hawl i fywyd oherwydd dylai’r hawl i fywyd fod yn ddarostyngedig i'r hyn sy'n gyfiawn . Cred y gwrthwynebwyr mai cosb eithaf yw'r tramgwydd gwaethaf o hawliau dynol, oherwydd yr hawl i fywyd yw'r pwysicaf. Mae hefyd yn dadlau fod wynebu'r gosb eithaf yn achosi artaith seicolegol i'r condemniedig a galwa'r gosb eithaf yn "gosb greulon, annynol a diraddiol". Mae Amnest Rhyngwladol yn ei ystyried ei fod y "gwadiad mwyaf eithafol o Hawliau Dynol, na ellir ei wrthdroi".[6]

Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu, yn 2007, 2008, 2010, 2012, 2014, a 2016 [7] benderfyniadau'n galw am foratoriwm byd-eang ar ddienyddiadau, gyda'r bwriad o ddiddymu'r gosb eithaf, yn y pen draw.[8]

Lladd gan yr heddlu[golygu | golygu cod]

Mae'r Safonau Hawliau Dynol Rhyngwladol ar gyfer Gorfodi'r Gyfraith wedi creu system lle cydnabyddir fod yn rhaid i bob rhan o'r wladwriaeth (gan gynnwys yr heddlu ac adrannau cudd-wybodaeth_ fod yn rhwym wrth gyfraith hawliau dynol rhyngwladol ac y dylent wybod a gallu cymhwyso safonau rhyngwladol ar gyfer hawliau dynol.[9]

Ewthanasia[golygu | golygu cod]

Mae'r rhai sy'n credu y dylai person allu gwneud y penderfyniad i ddiweddu ei fywyd ei hun trwy ewthanasia yn defnyddio'r ddadl bod gan bobl yr hawl i ddewis,[10] tra bod y rhai sy'n gwrthwynebu cyfreithloni ewthanasia yn dadlau felly ar y sail bod gan bawb yr hawl i fywyd.[11]

Datganiadau cyfreithlon[golygu | golygu cod]

  • Yn 1444, datganodd Statud Poljica yr hawl i fyw "- oherwydd nad oedd unrhyw beth yn bodoli am byth".[12]
  • Ym 1776, datganodd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau fod “ pob dyn yn cael ei greu’n gyfartal, eu bod yn cael eu cynysgaeddu gan eu Creawdwr â rhai Hawliau na ellir eu newid ee Bywyd, Rhyddid a Hapusrwydd”.
  • Ym 1948, cyhoeddwyd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn erthygl tri:Mae gan bawb yr hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch person.
  • Ym 1950, mabwysiadwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan Gyngor Ewrop, gan ddatgan y diogelir yr hawl ddynol i fywyd yn Erthygl 2 . Mae yna eithriadau ar gyfer dienyddiadau cyfreithlon a hunan-amddiffyn, arestio rhywun sydd dan amheuaeth o ffoi, ac atal terfysgoedd a gwrthryfel. Ers hynny mae Protocol 6 y Confensiwn wedi galw ar genhedloedd i wahardd y gosb eithaf ac eithrio adeg rhyfel neu argyfwng cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae hyn yn ymwneud â phob gwlad yn y Cyngor. Mae Protocol 13 yn darparu ar gyfer dileu'r gosb eithaf yn llwyr, ac fe'i gweithredwyd yn y mwyafrif o aelod-wledydd y Cyngor.
  • Ym 1966, mabwysiadwyd y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig .
Mae gan bob bod dynol yr hawl gynhenid i fywyd. Bydd yr hawl hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith. Ni chaiff neb ei amddifadu o fywyd yn ol mympwy.
- Erthygl 6.1 o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol 
  • Ym 1969, mabwysiadwyd Confensiwn America ar Hawliau Dynol yn San José, Costa Rica gan lawer o wledydd yn Hemisffer y Gorllewin. Mae mewn grym mewn 23 o wledydd.
Dylid parchu bywyd pob person. Bydd yr hawl hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith ac, yn gyffredinol, o eiliad y caiff person ei genhedlu. Ni chaiff neb ei amddifadu yn fympwyol o'i fywyd.
- Erthygl 4.1 o Gonfensiwn America ar Hawliau Dynol 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Address to Midwives on the Nature of Their Profession", 29 Hydref 1951. Pope Pius XII.
  2. "Gale - Product Login". galeapps.galegroup.com. Cyrchwyd 2019-07-18.
  3. http://www.christianlifeandliberty.net/RTL.bmp K.M. Cassidy. "Right to Life." In Dictionary of Christianity in America, Coordinating Editor, Daniel G. Reid. Downers Grove, Illinois: InterVarsity Press, 1990. pp. 1017,1018.
  4. "God's Own Party The Making of the Religious Right", pp. 113-116. ISBN 978-0-19-534084-6. Daniel K. Williams. Oxford University Press. 2010.
  5. Singer, Peter. Practical ethics Cambridge University Press (1993), 2nd revised ed., ISBN 0-521-43971-X
  6. "Abolish the death penalty". Amnesty International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2010. Cyrchwyd 23 Awst 2010.
  7. "117 countries vote for a global moratorium on executions". World Coalition Against the Death Penalty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02.
  8. "moratorium on the death penalty". United Nations. 15 Tachwedd 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ionawr 2011. Cyrchwyd 23 Awst 2010.
  9. "International Human Rights Standards for Law Enforcement" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-08-28.
  10. 1999, Jennifer M. Scherer, Rita James Simon, Euthanasia and the Right to Die: A Comparative View, Page 27
  11. 1998, Roswitha Fischer, Lexical Change in Present-day English, page 126
  12. Marušić, Juraj (1992). Sumpetarski kartular i poljička seljačka republika (arg. 1st). Split, Croatia: Književni Krug Split. t. 129. ISBN 978-86-7397-076-9.