Neidio i'r cynnwys

Licswm

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Yr Wyddfid)
Licswm
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth910 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYsgeifiog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.233°N 3.247°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ167714 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Ysgeifiog, Sir y Fflint, Cymru, yw Licswm[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Lixwm).[2] Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r de o Dreffynnon a thua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Wyddgrug. Rhed y ffordd B5121 trwy'r pentref.

Yn hanesyddol, mae Licswm o blwyf Ysgeifiog, pentref sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin. I'r dwyrain ceir Mynydd Helygain.

Lleolir Ysgol Gynradd Licswm yn y pentref.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Yn ôl ieithyddwyr, tardda'r enw o'r gair Saesneg likesome neu licksome (tafodieithol), enw a roddwyd gan y glowyr a ddaeth yno i weithio o Swydd Derby yn Lloegr. Cymreigiad o'r enw hwnnw yw 'Licswm' felly.[3] Ceir hefyd yr enw hynafol yr Wyddfid.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
  3. 'What's in a name?': Lixwm, Gwefan y BBC.
  4. Geiriadur yr Academi, [Lixwm].
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato