Yr Hen Bersoniaid Llengar
Mae'r Hen Bersoniaid Llengar, Yr Hen Offeiriaid Llengar neu'r Offeiriaid Llengar yn dermau a ddefnyddir i gyfeirio at grŵp anffurfiol o offeiriaid o fewn Eglwys Lloegr fu'n hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg, diwylliant ac ysgolheictod Cymreig (yn enweidg ym meysydd Hanes ac Archaeoleg) a'r traddodiad Eisteddfodol yn ystod hanner gyntaf yr 19g. Bathwyd y term gan Bedwyr Lewis Jones yn 1963,[1] ond roedd haneswyr cynharach megis R. T. Jenkins wedi cyfeirio atynt eisoes.
Yr Hen Bersoniaid
[golygu | golygu cod]Nid sefydliad ffurfiol ag aelodaeth swyddogol oedd yr Hen Bersoniaid ac roeddynt yn gweithio mewn mannau a chyd-destunau gwahanol dros gyfnod hir, weithiau gyda'i gilydd ond weithiau fel unigolion, ac weithiau'n groes i'w gilydd. Mae'n gwestiwn felly a yw'r term yn cyfeirio at bob offeiriad Eglwysig o'r cyfnod oedd yn weithredol mewn unrhyw ffordd o fewn llenyddiaeth Gymraeg, neu dim ond rhai ohonynt. Fodd bynnag, defnyddiodd Bedwyr Lewis Jones y term i gyfeirio at
- Thomas Beynon (1744-1833)
- Gwallter Mechain (1761-1849)
- Ifor Ceri (1770-1829)
- William Jenkins Rees (1772-1885)
- Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855)
- Alun (1979-1840)
- Carnhuanawc (1787-1848)
- Harry Longueville Jones (1806–1870)
- Nicander (1809-1874)
- Ab Ithel (1811-1862)
ynghyd â "dwsin o offeiriaid eraill". O bwys hefyd oedd Thomas Burgess (1756-1837), Sais a benodwyd yn esgob Tyddewi a gymerai diddordeb yng ngwaith yr Hen Bersoniaid.
Yn ôl diffiniad Jones roedd cyfnod y mudiad yn dechrau yn 1818, pan sefydlwyd Cymdeithas Cymroaidd Dyfed gan Ifor Ceri gyda'r bwriad o drefnu'r hyn a ddaeth yn Eisteddfod Caerfyrddin 1819, ac yn dod i ben gydag Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858.[2] Gwŷr cymharol ifanc oedd rhai o'r "Hen" bersoniaid yn ystod y cyfnod yma.
Ceir unigolion pwysig o fewn llenyddiaeth Gymraeg o gyfnodau eraill oedd hefyd yn offeiriaid Eglwysig, megis William Morgan, Y Ficer Prichard a Goronwy Owen, ond nid atyn nhw mae'r term yn cyfeirio.
Gwaddol a Dylanwad
[golygu | golygu cod]Roedd yr Hen Bersoniaid yn hynafiaethwyr, yn gasglwyr llawysgrifau, yn gyhoeddwyr a sefydlodd cylchgronau dylanwadol megis Y Gwyliedydd ac Yr Haul, ac yn Eisteddfodwyr. Cafodd Iolo Morgannwg ddylanwad sylweddol ar y grŵp; dan arweinyddiaeth Ifor Ceri trefnwyd Eisteddfod Caerfyrddin 1819 lle daeth Gorsedd y Beirdd yn ran rheolaidd o'r Eisteddfodau mawrion. Hon oedd yr Eisteddfod fwyaf a gynhaliwyd hyd hynny ac arweiniodd at sefydlu'r cymdeithasau taleithiol a drefnodd yr Eisteddfodau Taleithiol o 1819-1834. Drwy Carnhuanawc yn enwedig cafodd yr Hen Bersoniaid ddylanwad mawr ar Cymreigyddion y Fenni ac Eisteddfodau'r Fenni Ymhlith y sefyliadau a sefydlwyd gan rai o'r Hen Bersoniaid, neu y cawsant ddylanwad sylweddol arnynt, oedd yr Welsh MSS Society a Cymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Roedd safonau ysgolheigaidd yr Hen Bersoniaid yn aml yn llac iawn, a hynny'n rannol sy'n gyfrifol am y ffaith i bethau fel ffugiadau Iolo a syniadau cyfeiliornus William Owen Pughe an iaith ac orgraff gael troedle. Serch hynny, yr Hen Bersoniaid i raddau helaeth oedd yn gyfrifol am gynnal ysgolheictod llenyddol Cymraeg rhwng edwiniad y Cymdeithasau Llundeinig ar ddechrau'r 19g a sefydliad yr Eisteddfod Genedlaethol ac ysgolheigion proffesiynol Rhydychen a Phrifysgol Cymru yn ystod chwarter olaf y ganrif.[1][2]
Nid oedd y rhan fwyaf o'r Hen Bersoniaid yn feirdd ynddynt eu hunain, ond ymhlith y rhai a oedd roedd rhai o feirdd pwysicaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Alun. Ffafriai'r ddau yma'r mesurau rhydd, er bod Nicander, un arall o'r Hen Bersoniaid, yn pledio'r mesurau caeth.
Perthynas â'r Eglwys Ehangach
[golygu | golygu cod]Fel y nodir uchod, nid oedd yr Hen Bersoniaid yn fudiad nac yn sefydliad ffurfiol ac nid oeddynt yn cynrychioli polisi swyddogol ar ran Eglwys Lloegr. Lleiafrif oeddynt o fewn yr Eglwys ac offeiriaid cymharol isel yn y sefydliad ar y cyfan (eithriadau oedd esgob Tyddewi Thomas Burgess a Thomas Beynon oedd yn Archddiagon Ceredigion), ac roedd nifer o offeiriaid eraill yng Nghymru yn y cyfnod yn arddel safbwyntiau gwrth-Gymraeg oedd yn cyferbynnu'n llwyr â'r Hen Bersoniaid.
Roedd nifer o'r Hen Bersoniaid yn rhan o Fudiad Rhydychen, grŵp o fewn yr Eglwys oedd yn arddel traddodiadau Cristnogol hŷn o fewn Anglicaniaeth.[3]
Ffynhonellau
[golygu | golygu cod]- Bedwyr Lewis Jones, Yr Hen Bersoniaid Llengar (Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, 1963)
- A. Tudno Williams, Mudiad Rhydychen a Chymru (Gwasg Gee, 1983)