Heddlu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Yr Heddlu)
Fan heddlu, Cymru

Gwasanaeth o fewn cymuned gyda chyfrifoldeb i gadw trefn, gorfodi'r gyfraith ac atal a datgelu troseddau yw heddlu ("hedd" + "llu"). Yng ngwledydd Prydain, dechreuodd ddulliau modern o orfodi cyfraith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond bu ddulliau eraill a gwasanaethau tebyg i'r heddlu wedi bodoli ers talwm.

Galw'r heddlu[golygu | golygu cod]

Mewn llawer o wledydd, ceir rhif ffôn byr a chofiadwy er mwyn galw'r heddlu a gwasanaethau eraill am ddim mewn argyfwng. Yn y DU, 999 yw'r rhif hwn, ond mae 112 yn gweithio hefyd ym mhob gwlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Yng ngogledd America, 911 yw'r rhif argyfwng. Ond yn ogystal â hyn, mae rhif ffôn di-argyfwng yn y DU, sef 101, gyda'r amcan o symud galwadau diangen draw o'r rhifau argyfwng. Ceir rhif di-argyfwng byr tebyg yn rhannau o UDA hefyd, sef 311 Archifwyd 2009-04-22 yn y Peiriant Wayback..

Hanes yr heddlu ym Mhrydain[golygu | golygu cod]

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

Llun o farnwr o lawysgrif Peniarth 28

Yn ystod yr Oesoedd Canol gan nad oedd llu heddlu proffesiynol wedi ei sefydlu adeg hynny roedd y cyfrifoldeb am ddal y troseddwr yn cael ei roi i’r gymuned. Byddai’r gymuned yn trefnu felly eu bod yn gwneud hynny drwy ddull ‘gwaedd ac ymlid’ sef galw ar y pentrefwyr eraill i helpu ddal y troseddwr a hefyd trefnu eu hunain mewn grwpiau o ddeg, sef ‘degymiadau’.  Roedd y grwpiau o ddeg yn cymryd cyfrifoldeb am ymddygiad ei gilydd, oherwydd os byddai unrhyw ddrwgweithredwyr oddi fewn y grwp roedd yn ddyletswydd ar y lleill i fynd  â nhw i’r llys.

Arweiniwyd y ‘gwaedd ac ymlid’ gan y Cwnstabliaid a fyddai’n cael ei ethol yn flynyddol gan ei gymdogion yn y pentrefi a threfi.  Roedd hon yn swydd ddi-dâl ac arhosodd y dyletswyddau y r’un fath hyd nes y 19eg ganrif.

Ar lefel sirol roedd y Siryfion Sirol yn gyfrifol am blismona. Pendowyd hwy gan y Brenin a bydden nhw’n gyfrifol am drefnu’r ‘posse comitatus’ a fyddai’n dal y troseddwr os nad oedd y ‘gwaedd ac ymlid’ wedi llwyddo i wneud hynny.

Er bod ‘Cyfraith y Brenin’ wedi cael ei orfodi ar Gymru wedi Concwest Edward I roedd elfennau o Gyfreithiau Hywel Dda yn parhau i fod yn rhan o system gyfreithiol Cymru.  ‘Cyfraith y Brenin’ a ddefnyddiwyd mewn achosion troseddol ond roedd Cyfraithiau Hywel Dda yn cael eu defnyddio o hyd wrth brofi achosion sifil.[1]

Y Tuduriaid a Stiwartiaid[golygu | golygu cod]

Ynadon Heddwch[golygu | golygu cod]

Er bod swydd yr Ynadon Heddwch wedi cael ei sefydlu yn yr Oesoedd Canol rhoddwyd mwy o gyfrifoldebau iddynt yng nghyfnod y Tuduriaid.  Daethant yn allweddol wrth weithredu cyfraith a threfn yn lleol ac ar lefel sirol. Fel arfer roedden nhw’n bobl bwysig yn eu cymuned fel tirfeddiannwr lleol a byddent yn gweithio’n ddi-dâl am yr anrhydedd o gael y swydd.

Byddai dyletswyddau eu gwaith yn cynnwys cyfrifoldeb am lywodraeth leol ac roeddent yn gyfrifol gynnal a chadw pontydd a hewlydd, trwyddedau tafarndai ac arolygu gofal am y tlodion yn y plwyf.[1]

Byddai’r ynadon yn cyfarfod mewn is-sesiynau a sesiynau chwarter lle byddent yn medru dedfrydu am mân droseddau ac yn nes ymlaen rhoddwyd y pŵer iddynt ddedfrydu ar droseddau mwy difrifol fel llofruddiaeth a gwrachyddiaeth yn y Sesiynau Chwarter.  Roedd y troseddau mwyaf difrifol yn y categorïau hyn yn cael eu cyflwyno gerbron barnwr a rheithgor.

Yn nes ymlaen yng nghyfnod y Tuduriaid rhoddwyd pwerau iddynt arestio pobl ac fel ditectif, cawsant yr awdurdod i gwestiynu pobl oedd yn cael eu hamau o droseddu.  Yn nheyrnasiad Elisabeth I rhoddwyd mwy o gyfrifoldebau iddynt am sefydlu ac arolygu gwaith y tai cywiro ar gyfer y tlodion yn y plwyfi.[1]

Cwnstabliaid a Gwylwyr[golygu | golygu cod]

Roedd yr Ynad Heddwch yn penodi Cwnstabliaid y Plwyf er mwyn eu cynorthwyo gyda’u gwaith o gynnal cyfraith a threfn yn y gymuned.  Disgwylid i’r Cwnstabl adrodd wrth yr Ynadon Heddwch yn y Sesiynau Chwarter (bedair gwaith y flwyddyn).  Byddai’r Cwnstabl yn penodi cynorthwywyr neu Is-Gwnstabl, i’w helpu gyda’r gwaith, er enghraifft, arestio troseddwyr a mynd â hwy i’r carcharau.  Masnachwyr neu ffermwyr fyddai’n gwneud y gwaith yma ac roedd y swydd yn ddi-dâl.

Yn y trefi cyflogwyd Gwarchodwyr neu Gwylwyr i helpu’r Cwnstabliaid gyda chadw cyfraith a threfn. Sefydlwyd y swydd fel un oedd yn cael ei thalu yn ystod teyrnasiad Siarl II er mwyn sicrhau bod digon o wylwyr ar strydoedd Llundain.  Fel arfer roedd y gwylwyr yn hen a musgrell a byddent yn cerdded y strydoedd yn y nos wedi eu harfogi gyda ffon, llusern a chloch.  Llys-enwyd hwy yn ‘Charleys’ fel term dychanol oherwydd eu bod yn ddi-werth yn gwarchod rhag troseddau neu i ddal troseddwyr. Doedd dim pŵer ganddynt ychwaith i redeg ar ol troseddwyr mewn i blwyfi eraill ac felly roedd hyn yn rhwystr ychwanegol iddynt wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau.[1]

Y ddeunawfed ganrif[golygu | golygu cod]

Y Brodyr Fielding[golygu | golygu cod]

Y barnwr Henry Fielding

Yn 1748 penodwyd Henry Fielding yn ynad yn ardal Bow Street yn Llundain.  Sylweddolodd wrth i’r trefi gynyddu yn eu maint nad oedd y gwylwyr a chwnstabliaid yn medru ymdopi gyda’r cynnydd mewn troseddau o ganlyniad i hynny. Nid oedd ganddo hyder yn y system blismona fel ag yr oedd hi. Penderfynodd felly ffurfio grŵp o chwech gwnstabliaid i’w helpu a enwyd yn nes ymlaen yn Rhedwyr Bow Street. Hyfforddwyd yn eu dyletswyddau ond nid oeddynt i ddefnyddio grym onibai i amddiffyn eu hunain.

Nid oeddent yn gwisgo iwnifform a’r unig arwydd eu bod yn swyddogion y gyfraith oedd bod ganddynt ffon gyda choron ar ei phen. Roeddent yn swyddogion llawn amser a thalwyd cyflog iddynt, ynghyd â rhan o unrhyw wobr ariannol.

Roedd Henry Fielding hefyd yn ddibynnol ar y gymuned i gael cymorth wrth ddal troseddwyr a byddai’n defnyddio hysbyebion yn y papurau newydd i helpu gyda’r gwaith hynny. Roeddent hefyd yn gwneud gwaith ditectif ac yn mynd i dai tafarn lleol i gael gwybodaeth am droseddwyr lleol.

Yn 1754 bu Henry farw ond roedd ei frawd John wedi ymuno gyda fe yn y gwaith ychydig flynyddoedd yn gynt. Cyflwynodd John agweddau eraill i waith Rhedwyr Bow Street.  Ar ddechrau’r 1760au sefydlodd Batrol Ceffylau Bow Street er mwyn taclo problem cynyddol y lladron penffordd ar yr hewlydd o gwmpas Llundain ac mi ddatblygodd Bow Street i fod yn ganolfan wybodaeth.  Rhan o’r gwaith yma oedd cyhoeddi yn 1786 papur newydd  wythnosol o’r enw The Hue and Cry, sef papur wythnosol a oedd yn dosbarthu manylion am droseddwyr neu eiddo oedd wedi ei ddwyn. Roedd Henry Fielding yn credu’n gryf mai gwaith y Rhedwyr oedd nid yn unig ymateb i droseddau a gyflawnwyd ond hefyd i atal troseddau rhag digwydd.

Roedd y ffaith fod y Llywodraeth wedi rhoi i ariannu Patrol Ceffyl Bow Street ac i’r papur wythnosol yn arwydd bod y Llywodraeth yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am blismona a bu’r egwyddor yma yn ganolog i’r cam nesaf yn natblygiad plismona, sef sefydlu Heddlu Metropolitan yn 1829 dan arweinyddiaeth Syr Robert Peel, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd.

Hefyd, roedd sefydliad Rhedywr Bow Street yn drobwynt pwysig yn hanes plismona gan ei bod yn gosod templad ar gyfer heddlu trefnus, cyflogedig y dyfodol.  Serch hynny, roedd gwrthwynebiad i’w bodolaeth oherwydd nad oedd bobl eisiau gweld arian cyhoeddus, fel trethi, yn cael eu defnyddio i ariannu’r fenter.  Credai rhai eraill hefyd bod yr heddlu yn amharu ar eu rhyddid.[1]

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg[golygu | golygu cod]

Heddlu Metropolitan 1829[golygu | golygu cod]

Plismon efo'r Heddlu Metropolitan yn y 1850au

Sylweddolodd Syr Robert Oeel, bod gwir angen am heddlu proffesiynol, cyflogedig oherwydd diffygion y system bresennol o’r cwnstabliaid a’r gwylwyr, twf yn nifer y troseddau yn y trefi diwydiannol a’r terfysgoedd diweddar fel Caeau Spa a Peterloo wedi amlygu gwendidau’r system blismona. Ni ellid ddibynnu ar filwyr i gadw trefn gan fod hynny’n aml yn gwaethygu’r sefyllfa.[1]

Yn y Senedd ym mis Gorffennaf 1829 pasiwyd Deddf Heddlu Llundain a sefydlwyd heddlu i fod yn gyfrifol am gadw cyfraith a threfn o fewn pymtheg milltir o ganol Llundain. Nid oedd dim awdurdod ganddynt tu hwnt i’r dalgylch hyn ac felly roedd Rhedwyr Bow Street yn parhau i blismona’r ardaloedd hynny. Nid oeddent yn cario arfau, ar wahan i bastwn, a gwisgent got las dywyll gyda botymau metel, trowsus glas a het uchel.  Yn fuan iawn llysenwyd hwy yn Bobbies neu Peelers ar ôl Robert Peel.  Roedd 11,700 yn aelodau o’r Heddlu Metropolitan erbyn 1882.

Dynodai sefydliad Heddlu’r Metrpolitan agwedd newydd y Llywodraeth tuag at ei rol mewn cadw cyfraith a threfn.  Roedd yr arian a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth wrth sefydlu Heddlu’r Metrpolitan yn Llundain yn dangos bod cynsail wedi ei osod, sef bod y wladwriaeth yn cymryd cyfrifoldeb am sut oedd ei thrigolion yn cael eu plismona.[1]

Gweddill y deyrnas[golygu | golygu cod]

Yn 1839 pasiwyd Deddf Heddlu Gwledig a roddodd yr hawl, ond nid gorfodaeth i siroedd sefydlu eu heddlu proffesiynol eu hunain.  Nid oedd hon gorfodaeth Cymerodd Cymru fantais o’r ddeddf yn gyflym iawn, er gwaethaf rhywfaint o wrthwynebiad ar sail y cost a’r ofn y byddai’r heddlu newydd yn troi’n ysbïwyr ar y bobl fel yn Ffrainc.  Roedd heddlu rhan amser gan Gymru yn rhai o’r trefi fel Merthyr a Hwlffordd er mai bach iawn oeddynt o ran nifer. Yn 1836 dim ond dau heddwas oedd yn Ninbych y Pysgod, saith yn Abertawe a phump yng Nghaerfyrddin.  Erbyn 1843 roedd pum sir wedi sefydlu heddlu. Doedd dim gorfodaeth ar y siroedd i sefydlu heddlu o dan ddeddf 1839 ond ar ôl pasio Deddf Heddlu Sir a Bwrdeisdref 1856 doedd dim dewis ganddynt.

Yn ôl Deddf Heddlu Sir a Bwrdeisdref 1856 roedd yn rhaid i bob sir a thref fawr sefydlu heddlu proffesiynol gyda gorsafoedd a chelloedd i gadw troseddwyr. Roedd llawer o’r prif gwnstabliaid newydd yn gyn-aelodau o’r fyddin ac roedd dylanwad y fyddin yn amlwg ar lifrai newydd yr heddlu.[2] Roedd Arolygwr Heddlu i gael eu penodi i bob sir gan yr Ysgrifennydd Cartref a gosodwyd canllawiau bod un heddwas i bob 1,000 o bobl.[3] Gosodwyd strwythur pendant ar gyfer hierarchiaeth yr heddlu, er enghraifft, Arolygwr, Prif Gwnstabl, swyddogion a chwnstabliaid.[1]

Iwerddon[golygu | golygu cod]

Mewn datblygiad ychydig yn wahanol yn Iwerddon, sefydlwyd y Cwnstablaeth Frenhinol Iwerddon (Royal Irish Constabulary) yn 1822. Ond roedd y rhain yn wahanol i heddlu gweddill y Deyrnas Unedig gan eu bod wedi eu lleoli mewn barics ac yn cario drylliau.

Cymwysterau a dyletswyddau heddwas[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd ardal benodol, neu ‘bȋt’ i bob cwnstabl i’w cherdded. Rhaid oedd i bob cwnstabl fod o dan 35 oed, o leiaf 5’7” o daldra, yn gryf a ffit iawn ac yn medru darllen ac ysgrifennu. Prif amcan y gwaith oedd cadw’r heddwch a rhwystro troseddau ac roeddent yn gweithio saith diwrnod yr wythnos.   O ran ariannu’r heddluoedd newydd yma, yn yr ardaloedd gwledig a threfol, roedd cyfraniadau yn dod oddi wrth y Llywodraeth ac o’r trethi lleol.[1]

Ymateb i'r heddlu newydd[golygu | golygu cod]

Poster yn annog pobol Aberystwyth i wrthod sefydlu gwasanaeth heddlu

Bu llawer o ddadlau ynghylch effeithlonrwydd yr heddlu newydd. Ar y cychwyn roedd llawer o waith yr heddlu yn canolbwyntio ar adfer trefn ar y strydoedd drwy delio gyda meddwdod, ymladd, begeriaid trafferthus a thawelu anghydfodau adeg etholiad, ffair neu marchnad.  Yng nghefn gwlad roedd yr heddlu yn cadw llygad ar fannau lle roedd lladrata yn debygol o ddigwydd, er enghraifft, wrth gloddiau a chledrau ffyrdd. Byddent yn mynd â phobl, oedd yn cael eu chwilio gyda ieir, watsys neu eiddo arall a allent fod wedi eu dwyn, neu pobl oedd yn edrych yn amheus, i’r ddalfa.  Roeddent hefyd yn cadw llygad allan am botsiars, a oedd yn drosedd gyffredin yn ardaloedd gwledig Cymru.

Cafodd yr heddllu newydd rai problemau wrth iddynt gael eu sefydlu. Ymddiswyddodd nifer oherwydd nad oeddent yn gallu ymdopi gyda’r gwaith, ac ymddiswyddodd eraill oherwydd torri rheolau’r heddlu.  Cafodd rhai eraill eu diswyddo oherwydd methiant i adrodd troseddau, eraill yn cael eu diswyddo oherwydd ymweld gyda phuteindai ac eraill am yfed tra ar ddyletswydd. Er gwaethaf agwedd ddrwgdybus y cyhoedd tuag at yr heddlu ar y cychwyn, llwyddwyd i ennill ffydd trwch y boblogaeth yn yr heddlu disgybliedig, newydd. [4]

Adrannau Arbenigol[golygu | golygu cod]

Nid oedd gwaith ditectif yn rhan o waith Heddlu’r Metropolitan pan sefydlwyd ef gyntaf. Bu sawl carreg filltir bwysig yn natblygu canghennau arbenigol i waith y Metropolitan yn y degawdau canlynol:

1842 – sefydlwyd cangen dditectif yn Scotland Yard sef adran dditectifs dillad arferol i’r heddlu

1878 - sefydlwyd y CID (Criminal Investigation Department) sef Adran Ymholiadau i Droseddau y Metropolitan.

1884 – Cangen Ymchwilio Arbennig (Special Branch) yn cael ei sefydlu oherwydd y bygythiad gan y Ffeniaid Gwyddelig gweriniaethol.

1901 – dechreuwyd ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig i ddatrys troseddau, er enghraifft, olion bysedd.  Sefydlwyd hefyd Bwrdd Olion Bysedd Cenedlaethol i gadw cofnod o’r holl olion bysedd.  Yn nes ymlaen cafodd labordai gwyddonol fforensig eu sefydlu hefyd, lle roedd gwyddonwyr yn medru edrych ar dystiolaeth a gwneud arbrofion. Yma roeddent yn medru archwilio llwch a ffeibrau o ddillad, profion ar gyfer gwallt a gwaed er mwyn gweld os mai o berson neu anifail maent yn deillio.[1]

Cofnodion a chasglu gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1869 cafodd Swyddfa Cofnodion Troseddol ei sefydlu er mwyn cadw cofrestr o droseddwyr, troseddau a gyflawnwyd a rhai oedd yn cael eu hamau o droseddu.[1]

Sefydlwyd hefyd y Police Gazette a gylchredai ddisgrifiadau manwl o droseddwyr cyson, ynghyd â manylion am eu troseddau blaenorol pan oeddent yn cael eu rhyddhau o’r carchar.[5]

Gwaith y ditectif a ffotograffiaeth[golygu | golygu cod]

Llun o troseddwr gan heddlu Sir Aberteifi, 1907

Erbyn tua diwedd y 19eg ganrif dechreuodd Heddlu’r Metropolitan ddefnyddio ffotograffiaeth yn gynyddol gyda’u gwaith drwy dynnu lluniau o’r troseddwyr.  Defnyddiwyd ef hefyd i dynnu lluniau o’r safleoedd troseddu.[1]

Yn fuan wedi dyfeisio ffotograffiaeth yn 1839 sylweddolwyd bod ganddo sawl mantais. Gan ei fod yn ddull o gadw cofnodion cywir roedd yn ffordd rhagorol i gadw rheolaeth ar elfennau 'drwg' o fewn cymdeithas. Mor gynnar â'r 1840au ceir adroddiadau am yr heddlu yn defnyddio ffotograffiaeth yn Lloegr. Ond nid tan gwymp Commune Paris yn 1871 y cafodd ei defnyddio ar raddfa eang. Adnabyddwyd y gwrthryfelwyr oddi wrth eu ffotograffau er mwyn eu cipio a'u cosbi. Bu ffotograffwyr hefyd yn gweithio yn y carchardai yn tynnu lluniau o'r unigolion a arestiwyd ac erbyn yr 1880au roedd y 'gwep lun', neu'r mug shot, wedi dod yn rhan arferol o waith yr heddlu.

Ond defnyddiwyd ffotograffiaeth nid yn unig i reoli elfennau 'drwg' cymdeithas ond hefyd fel ffordd i gadw cofnod ohonynt. Gwelodd y 19g nifer o syniadau yn cysylltu ymddygiad troseddwr gyda nodweddion corfforol penodol. Gwelwyd tynnu ffotograffau o ddrwgweithredwr fel ffordd o adnabod y nodweddion corfforol hynny a fyddai'n dangos tueddiadau unigolyn tuag at dorri’r gyfraith neu droseddu. Roedd hefyd yn cael ei weld fel ffordd o sefydlu beth oedd y 'teip troseddol'.

Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd ffotograffiaeth yr heddlu wedi dod yn ffurf dderbyniol ar dystiolaeth. Fe'i defnyddiwyd i adnabod troseddwyr unigol, yn hytrach na 'theipiau troseddol', ac i ddogfennu a chofnodi'r fan lle'r oedd trosedd wedi digwydd.  Roedd y technegau hyn yn cael eu defnyddio gan yr heddlu yng Nghymru ac roedd Sir Aberteifi  ar ddiwedd y 19eg ganrif yn un o’r siroedd a ddefnyddiai’r dulliau hyn.  Yn ogystal â disgrifiadau corfforol o'r carcharorion eu hunain a manylion am eu troseddau, mae cofnodion Cwnstaliaeth Sir Aberteifi yn cynnwys ffotograffau o'r rhai a ddedfrydwyd rhwng 1897 ac 1909 ynghyd ag ambell ffotograff o dystiolaeth neu leoliad trosedd.[6]

Yr 20fed ganrif[golygu | golygu cod]

Arbenigedd pellach[golygu | golygu cod]

Gwelodd y ganrif hon ddatblygiadau pellach yn arbenigedd a’r dulliau darganfod troseddu a ddefnyddiwyd gan yr heddlu;

1919 – sefydlwyd y Flying Squad gan Heddlu’r Metropolitan. Roedd hon yn adran a ddefnyddiai geir i ddelio gyda lladradau difrifol.

1946 - sefydlwyd nifer o grwpiau arbenigol megis y Sgwad Cyffuriau, y Grŵp Patrol Arbennig, yr Heddlu Twyll, a’r Heddlu Trin Cŵn.

2006 - cafodd yr adran Rheolaeth Gwrthdrefygol (S)15) ei sefydlu ac ers 1989 mae Adran Ymholiadau i Droseddau (CID), ditectifs mewn dillad arferol, gan bob heddlu ym Mhrydain.

Menywod yn yr Heddlu[golygu | golygu cod]

1919 – Menywod yn cael eu cyflogi am y tro cyntaf.  Cyfyngwyd eu dyletswyddau i batrolio ar droed a delio gyda achosion yn ymwneud â phlant a menywod. Erbyn 1973 roedd

Cressida Dick, y fenyw gyntaf i fod yn Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan

menywod yn cael y r’un cyfrifoldebau a dyletswyddau â dynion oddi fewn y lluoedd heddlu.

1996 – Pauline Clare oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn Brif Gwnstabl.  Penodwyd hi i’r swydd yn Heddlu Swydd Gaerhirfryn.

2017Cressida Dick yn cael ei phenodi fel y fenyw gyntaf i fod yn Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan.[1]

Trafnidiaeth a Chyfathrebu[golygu | golygu cod]

1909 – beiciau yn cael eu defnyddio fel bod yr heddlu’n gallu teithio a phatrolio yn gyflymach

1919 – cyflwynwyd ceir am y tro cyntaf.  Yn nes ymlaen cafodd ceir yr heddlu eu cysylltu gyda radio ac erbyn heddiw mae camerâu mewn ceir.

1980au – cyflwyno hofrenyddion.  Yn nes ymlaen ychwanegwyd cyfarpar technoleg fel camerâu isgoch, recordyddion fideo a goleuadau ymchwilio arnynt.[1]

O ran dulliau cyfathrebu bu camau mawr yn y cyfeiriad yma hefyd gyda’r ffôn yn cael ei chyflwyno yn 1901, y radio yn 1910 a dechreuwyd ddefnyddio radio dwy ffordd mewn ceir yn 1934.  Yn ystod y 1920au cyflwynodd yr heddlu flychau ffôn eu hunain ac yn y 1930au cyflwynwyd rhif argyfwng 999.  Yn y 1960au roedd heddlu ar y ‘bȋt’ yn defnyddio radio dwy ffordd bersonol. Ers 2009 mae’r heddlu yng Nghymru yn defnyddio’r rhif 101 ar gyfer sefyllfaoedd nad sy’n argyfwng.

Technoleg[golygu | golygu cod]

Mae technoleg wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad yr heddlu yn yr 20g  ac mae hyn i’w weld yn y cyfarpar technolegol newydd mae’r heddlu wedi ei fabwysiadu yn ystod y cyfnod hynny.  Mae camerâu CCTV, synwyryddion metel ac offer isgoch a gwrs ymhlith yr arfogaeth dechnolegol maent yn eu defnyddio.

Mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio ers y 1960au i gadw cofnodion a storio gwybodaeth am droseddau a throseddwyr. Mae hyn wedi rhwyddhau y broses o fonitro, gwirio, olrhain a chyfnewid gwybodaeth i’r heddlu.[1]

Erbyn heddiw mae tystiolaeth DNA unigolyn yn cael ei ddefnyddio fel rhan o waith ditectif yr heddlu, wrth edrych poer, gwaed neu gwallt.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 1.15 "Gorfodi cyfraith a threfn cyn y 16eg ganrif - Gorfodi cyfraith a threfn - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  2. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 16.
  3. "Plismona". BBC.
  4. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. tt. 16, 22.
  5. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 22.
  6. "Drwgweithredwyr | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2020-03-27.
Chwiliwch am heddlu
yn Wiciadur.