Eglwys Bresbyteraidd Cymru
| Enghraifft o: | enwad Cristnogol |
|---|---|
| Crefydd | Cristnogaeth, calfiniaeth, protestaniaeth |
| Dechrau/Sefydlu | 1811 |
| Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Aelod o'r canlynol | Cyngor Eglwysi'r Byd, Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, Cymuned o Eglwysi Protestannaidd yn Ewrop |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/048_nw |

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a elwir hefyd y Methodistiaid Calfinaidd neu'r Trefnyddion Calfinaidd, yn enwad anghydffurfiol Cymreig.
Datblygodd yr enwad allan o'r Diwygiad Methodistaidd yn y 18g dan arweiniad Howel Harris, Daniel Rowland a William Williams, Pantycelyn, ac yn ddiweddarach Thomas Charles. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn 1811 y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn 1823. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g, dan arweiniad gwŷr fel Thomas Jones (Dinbych) (1756 - 1820), John Elias (1774 - 1841) a John Jones, Talysarn, i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i'r enwad arall anghydffurfiol a arddelai'r enw 'Methodistiaid', sef y Methodistiaid Wesleaidd a ddilynai John Wesley yn Lloegr ac a ymledodd yng Nghymru yn ddiweddarach. Calfiniaieth a arddelai'r Methodistiaid yng Nghymru a Chalfinaidd oedd diwynyddiaeth yr enwad o'r dechrau. Bu tŵf pellach yn dilyn Diwygiad 1904-1905, dan arweiniad Evan Roberts, ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru
- Cyfrol 1: Y Deffroad Mawr, gol. Gomer Morgan Roberts (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1973)
- Cyfrol 2: Cynnydd y Corff, gol. Gomer Morgan Roberts (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1978)
- Cyfrol 3: Y Twf a'r Cadarnhau, gol. John Gwynfor Jones (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2011)
- R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)