Yr Alaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Argraff arlunydd o ein Galaeth ni, Galaeth y Llwybr Llaethog.
Llun o'r alaeth NGC 6744 recordiwyd gan Arsyllfa Deheuol Ewrop yn Chile, sydd yn edrych yn debyg i'n Alaeth ni. Dangosir freichiau troellog.
Llun o'r alaeth NGC 4565 recordiwyd gan Arsyllfa Deheuol Ewrop yn Chile, sydd yn eithaf tebyg i'n Galaeth ni. Dangosir ddisg yr alaeth, yr ymchwydd, a chymylau llwch tywyll yn gymysg â'r nwy yng nghanol y disg. Gwelir yr alaeth yma o ochr y disg.

Yr Alaeth, neu Alaeth y Llwybr Llaethog, yw'r alaeth y mae'r Ddaear a Chysawd yr Haul yn trigo ynddi. Gyda Galaeth Fawr Andromeda a galaethau eraill, mae'n un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Defnyddir brif lythyren (llythyren mawr) ar ddechrau yr enw i wahaniaethu rhwng ein Galaeth ni a galaethau eraill.

Natur yr Alaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Galaeth droellog gyda bar yn ei chanol o fath morffolegol SBbc ydy ein Galaeth ni. Fel galaethau barrog eraill, mae breichiau troellog i'w canfod ymhellach o'r canol na'r bar. Mae'r Alaeth yn cynnwys tua 200–400 biliwn sêr, clystyrau sêr, nwy rhyngserol a llawer iawn o fater tywyll. Dywedir yn aml mewn trafodaethau poblogaidd fod yr Alaeth yn debyg i ddwy wyau wedi eu ffrio wedi eu rhoi cefn wrth gefn.

Mae mwyafrif o'r sêr i'w ganfod mewn disg eang tenau. Mae tryfesur y disg yn fwy na 100,000 blwyddyn goleuni, ond mae rhan fwyaf o'r sêr mewn haen o'r disg gyda tewder o lai na 3,000 blwyddyn goleuni. Canfyddir nwy o fewn y disg, ond yn agosaf i'r plân canolog na'r sêr. Symudai'r nwy a mwyafrif o'r sêr mewn llwybrau sydd yn agos i gylchau, yn cylchdroi o amgylch canol yr Alaeth.[1][2]

Ffurfir ardaloedd yn y nwy gyda dwysedd mwy uchel na'r gyfartaledd ar sail patrwm troellog. Mae cymylau nwy oer yn crebachu i ffurfio sêr newydd, a mae'r sêr newydd hyn a'r nwy yn amlinellu'r breichiau troellog.

Lleolir Cysawd yr Haul‎ a'r Ddaear yn y disg tua 27,000 blwyddyn goleuni o'r canol. O'r Ddaear mae sêr pell yn y disg yn ymddangos fel band llydan trwy'r awyr a adnabyddir fel y Llwybr Llaethog.[1][2]

O amgylch y canol yw'r Ymchwydd, sef cyfundrefn o sêr hynafol, efallai sydd yn gysylltiedig â'r bar. Tu fewn i'r Ymchwydd yw'r Canol Galaethog. Yma mae ffynonellau allyriad radio, a chredir fod mewn un o rhain, o'r enw Sagittarius A*, mae twll du màs enfawr.

Amgylchynir y disg gyda sêr llawer llai niferus mewn sfferoid eang a adnabyddir fel y corongylch serol. Mae'r sêr hyn yn hen iawn, ymhlith y sêr hynaf yn yr holl Galaeth, a mae eu cyfansoddiadau cemegol yn ddiffygiol mewn elfennau mwy trwm nag hydrogen a heliwm i gymharu gyda'r Haul. Yn ogystal a'r corongylch serol, canfyddir glystyrau globylog (neu clystyrau crwn) o amgylch yr Alaeth, ond yn fwy niferus yn agos i'r canol, a thipyn mwy niferus yn agos i'r disg. Mae'r sêr yn y clystyrau globylog hefyd yn hen iawn ac yn ddiffygiol mewn elfennau cemegol trwm.[1][2]

Deallir fod yr holl rhannau gweladwy o'r Alaeth wedi eu lleoli mewn corongylch eang o fater tywyll. Credir fod màs y mater tywyll yn llawer iawn mwy nag màs holl mater gweladwy, a bod màs yr Alaeth gyflawn tua 1 × 1012 (1 triliwn) waith màs yr Haul.[2] Mae'r tystiolaeth am bodolaeth y corongylch mater tywyll yn dod o arsylliadau o sêr sydd yn bell o ganol yr Alaeth. Mae'r sêr hyn yn symud yn llawer mwy cyflym nag disgwylwyd ar sail disgyrchiant y mater gweladwy yn unig. Credir fod y mater tywyll i'w ganfod mewn sfferoid eang o draws yr Alaeth ac yn ymestyn am gannoedd o filoedd o flynyddoedd goleuni. Er bod y mater tywyll yn ymestyn trwy'r disg, credir nad ydy dwysedd y mater tywyll yn y disg yn uwch nag yn leoedd agos cyffelyb.[2][3]

Ei lleoliad a galaethau agos[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Alaeth yn aelod o'r Grŵp Lleol o alaethau, yn ail o safbwynt maint a màs tu ôl i Alaeth Fawr Andromeda. Mae ganddi hi nifer o alaethau llai fel gymdogion, yn cynnwys Cwmwl Mawr Magellanes, Cwmwl Bach Magellanes a llawer o alaethau corachaidd. Mae'r Grŵp Lleol ei hun yn rhan o Uwch Glwstwr Virgo.

Mae Galaeth Fawr Andromeda ac ein Galaeth ni yn goruchafu y Grŵp Lleol o safbwynt disgleirdeb a màs. Mae'r ddwy yn symud i'w gilydd dan atyniad eu cyd-disgyrchiant, a mae'n bosib bydd y ddwy yn cyfuno mewn 4–5 biliwn mlynedd, ond dibynnir hyn ar unrhyw mudiant ardraws y llinell rhwng y ddwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Mihalas, Dmitri; Binney, James (1981). Galactic Astronomy. San Francisco: W. H. Freeman and Company. ISBN 0-716-71280-6.  (Yn Saesneg.)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Binney, James; Merrifield, Michael R. (1998). Galactic Astronomy. Princeton, New Jersey: Princeton University Press. ISBN 0-691-02565-7.  (Yn Saesneg.)
  3. Binney, James; Tremaine, Scott (2008). Galactic Dynamics (2 ed.). Princeton, New Jersey: Princeton University Press. ISBN 978-0-691-13027-9.  (Yn Saesneg.)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


Galaxy-stub.PNG Eginyn erthygl sydd uchod am alaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.