Yr Afanc (creadur chwedlonol)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Barfog, un o gartrefi honedig yr Afanc

Anghenfil chwedlonol yng Nghymru oedd yr Afanc (a elwir hefyd yn Addanc). Mae ei nodweddion yn amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell; mae'n cael ei ddisgrifio fel creadur tebyg i grocodeil, afanc neu gorrach, a dro arall fel cythraul. Mae nifer o lynnoedd wedi'u nodi yn gartref iddo, gan gynnwys Llyn Llion, Llyn Barfog, ger Pont Brynberian, a Llyn yr Afanc, ger Betws-y-Coed. Mae hefyd 'Bedd yr Afanc' ar Fynydd Preseli.

Chwedlau a thraddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Anghenfil oedd yr Afanc a oedd yn ymosod ar y sawl a oedd yn ddigon di-ofal i fynd i ddyfroedd y llyn roedd yn byw ynddo.

Mae'r bardd Lewys Glyn Cothi yn rhoi un o'r disgrifiadau cynharaf o'r anghenfil, ac yn nodi ei fod yn byw yn Llyn Syfaddan ym Mhowys. Yn ol un chwedl, roedd morwyn wedi llwyddo i ddenu'r afanc i gysgu yn ei chol, a thra oedd yn cysgu, rhoddodd y pentefwyr y creadur mewn cadwyni. Cafodd yr Afanc ei ddihuno, a gwylltiodd; gwasgodd y forwyn i farwolaeth yn ei gynddaredd. Llwyddwyd yn y pen draw i'w lusgo i Gwm Ffynnon. 

Yn chwedl Peredur fab Efrawg, fel y mae wedi'i chofnodi yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest, mae'r "Addanc" yn byw mewn ogof ger palas y brenin. Mae'r Addanc yn lladd tri mab y brenin bob dydd, ond maen nhw'n cael eu hatgyfodi gan forwynion y llys. Nid oes esboniad pam mae'r cylch hwn yn digwydd, ond mae Peredur yn gofyn am gael marchogaeth gyda'r tri mab wrth iddyn nhw chwilio am yr Addanc yn ddyddiol. Mae nhw'n gwrthod ei gais am na fyddent yn gallu ei atgyfodi pe bai'n cael ei ladd.

Mae Peredur yn mynd i'r ogof ar ei ben ei hun gyda'r bwriad o ladd y creadur a chael y clod a'r anrhydedd. Ar ei daith, mae'n gweld morwyn sy'n ei rybuddio mai y byddai'r Addanc yn ei ladd gyda chyfrwystra am ei fod yn anweledig ac yn saethu saethau gwenwynig. Mae'r forwyn, Brenhines Caergystennin, yn rhoi glain neidr iddo a fyddai'n gwneud y creadur ymddangos eto. 

Mae Peredur yn mentro i'r ogof a, gyda chymorth y garreg a gawsai gan y forwyn, mae'n trywanu'r Addanc ac yn torri ei ben. Mae'r tri phennaeth yn cyrraedd yr ogof ac yn dweud bod gorchest Peredur wedi ei rhagfynegi.[1]

Mae rhai chwedlau yn dweud bod y creadur wedi'i ladd gan y Brenin Arthur. Ger Llyn Barfog yn Eryri mae petrosomatoglyff ol-carn wedi'i ysgythru'n ddwfn i garreg Carn March Arthur", a grewyd gan farch y Brenin Arthur, Llamrei, wrth iddo halio'r Addanc o'r llyn.

'Bedd yr Afanc' ar Fynydd Preseli

Ceir hefyd safle o'r enw 'Bedd yr Afanc' ar Fynydd Preseli, ble honnir y mae'r creadur wedi'i gladdu.

Iolo Morganwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ol chwedl am yr afanc a gyflwynwyd gan Iolo Morganwg, fe achosodd ei ddirgryniadau lifogydd enfawr a foddodd holl drigolion Prydain heblaw am ddau berson, Dwyfan a Dwyfach, ac roedd holl drigolion yr ynysoedd wedi hynny yn ddisgynyddion iddynt. 

Mewn fersiwn arall gan Iolo Morganwg, ych Hu Gadarn lusgodd yr afanc allan o Lyn Llion; roedd yr anghenfil yn ddiymadferth wedi iddo gael ei dynnu o'r dwr, ac yn gallu cael ei ladd.

Orgraff[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sillafiad yr enw mewn yn dibynnu ar y ffynhonnell. Yr avanc oedd yn byw yn Llyn Barfog, ac mae'r gair afanc heddiw yn cyfeirio at anifail arall. Mae'r ffurf avanc/afanc hefyd yn cael ei ddefnyddio yn Llyfr Coch Hergest a'r rhan fwyaf o ffynonellau canoloesol eraill. Yn y chwedl sy'n adrodd hanes Peredur yn Llyfr Gwyn Rhydderch, gelwir y creadur yn yr ogof yn addanc. Afanc yw'r sillafiad mwyaf cyffredin.[2]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Guest, Lady Charlotte (2002). The Mabinogion. London: Voyager. pp. 192–195. ISBN 0-261-10392-X.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru (University of Wales Dictionary), vol.