Ynysoedd Mariana
Gwedd
| Math | ynysfor |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Mariana o Awstria |
| Poblogaeth | 201,165 |
| Cylchfa amser | UTC+10:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gini Newydd Almaenig, Gwam, Ynysoedd Gogledd Mariana |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Arwynebedd | 1,018 km² |
| Uwch y môr | 965 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, North Pacific Ocean |
| Cyfesurynnau | 16.7°N 145.78°E |
![]() | |
Ynysfor yn y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Mariana. Maent tua hanner y ffordd rhwng Japan yn y gogledd ac ynys Gini Newydd yn y de. Hwy yw ynysoedd mwyaf gogleddol Micronesia.
Mae'r ynysoedd yn diriogaethau tramor yn perthyn i Unol Daleithiau America. Fe'i rhennir yn ddwy ran, gyda'r ynysoedd yng ngogledd a chanol y gadwyn yn ffurfio tiriogaeth y Marianas Gogleddol a Gwam yn y de yn diriogaeth ar ei phen ei hun. Ffurfir yr ynysoedd gan gopaon pymtheg llosgfynydd, sy'n codi o waelod y môr. I'r dwyrain o'r ynysoedd, mae dyfnder y môr yn cyrraedd 11,035 medr, y man dyfnaf yn y byd.
