Ynys yr Eliffant
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Shetland y De ![]() |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig ![]() |
Arwynebedd | 558 km² ![]() |
Uwch y môr | 852 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor y De ![]() |
Cyfesurynnau | 61.14°S 55.12°W ![]() |
Hyd | 47 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys fynyddig wedi'i gorchuddio â rhew oddi ar arfordir Antarctica yw Ynys yr Eliffant. Mae'n rhan allanol o Ynysoedd Shetland y De, yng Nghefnfor y De. Saif yr ynys 245 cilometr (152 milltir) i'r gogledd-ogledd-ddwyrain o flaen y Penrhyn yr Antarctig, 1,253km i'r gorllewin-dde-orllewin o Ynys De Georgia, 935 km i'r de o Ynysoedd y Falkland, a 885km i'r de-ddwyrain o benrhyn Yr Horn. Mae'r ynys yn rhan o hawliadau tiriogaethol Yr Ariannin, Tsile a'r Deyrnas Unedig. Mae Rhaglen Antarctig Brasil yn cadw lloches ar yr ynys, sef Lloches Emílio Goeldi,[1] ac yn flaenorol roedd ganddo un arall, sef Lloches Wiltgen, a oedd yn cefnogi gwaith hyd at chwe ymchwilydd yr un yn ystod yr haf. Cafodd Wiltgen ei ddatgymalu yn ystod hafau 1997 a 1998.
Enw ac enw amgen
[golygu | golygu cod]Priodolir enw Ynys yr Eliffant i'w olwg pen eliffant a'r ffaith i'r Capten George Powell weld eliffantod môr yno ym 1821, sef un o'r achlysuron cyntaf iddynt gael eu gweld. Yn Rwsia, mae'r ynys yn dal i gael ei hadnabod wrth yr enw a roddwyd gan ei ddarganfyddwyr yn 1821 - Ynys Mordvinov.
Shackleton ac Ynys yr Eliffant
[golygu | golygu cod]Roedd yr ynys yn lloches anghyfannedd i'r fforiwr Prydeinig Ernest Shackleton a'i griw yn 1916 ar ôl iddynt golli eu llong Endurance ym mhac iâ Môr Weddell. Cyrhaeddodd y criw o 28 Cape Valentine ar Ynys yr Eliffant ar ôl treulio misoedd yn drifftio ar iâ arnofiol a chroesiad dirdynnol o'r cefnfor agored mewn badau achub bychain.[2] Ar ôl gwersylla yn Cape Valentine am ddwy noson, symudodd Shackleton a'i griw i'r gorllewin i lecyn bach creigiog ar derfyn rhewlif, oedd yn cael ei alw’n Point Wild, ac a oedd yn cynnig gwell amddiffyniad rhag sgydau creigiau a'r môr. Gan sylweddoli nad oedd unrhyw wir siawns o achubiaeth gan neb arall, penderfynodd Shackleton hwylio i South Georgia, lle gwyddai fod sawl gorsaf hela morfilod. Hwyliodd Shackleton gyda Tom Crean, Frank Worsley, Harry "Chippy" McNish, Tim McCarthy, a John Vincent – y ddau olaf yn forwyr profiadol – ar fordaithyn y bad achub James Caird gan cychwyn ar ddydd Llun y Pasg, 24 Ebrill 1916, ac yn cyrraedd De Georgia 16 diwrnod yn ddiweddarach. Gadawyd ei ddirprwy, Frank Wild, ar ôl i fod yn gyfrifol am weddill y parti ar Ynys yr Eliffant, yn aros i Shackleton ddychwelyd gyda llong achub.[3] Roedd llawer o waith i'r dynion a arhosai ar yr ynys. Gan nad oedd gan yr ynys gysgod naturiol. Fe wnaethon nhw adeiladu cwt a rhwystrau gwynt o'r ddau fad achub oedd yn weddill a darnau o bebyll cynfas. Defnyddiwyd lampau saim morlo ar gyfer goleuo. Roeddent yn hela am bengwiniaid a morloi, er nad oedd digon ohonynt yn yr hydref na'r gaeaf. Roedd Shackleton wedi cyfarwyddo Wild i fynd oddi yno gyda gweddill y criw a cheisio cyrraedd Deception Island os na fyddai’n dychwelyd i’w hachub erbyn dechrau’r haf. Ar ôl pedwar mis a hanner, ar 30 Awst 1916, daeth llong, y tynfad Yelcho, o Punta Arenas, Tsile, gyda Shackleton ar ei bwrdd ac achub y dynion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ O Programa Antártico Brasileiro, VivaBrazil; adalwyd 21 Ionawr 2025
- ↑ Ernest Shackleton, South: The Endurance Expedition (Llundain: Penguin Books, 1999), t.157
- ↑ "Shackleton", American Museum of Natural History; adalwyd 21 Ionawr 2025