Ynys Thurston

Oddi ar Wicipedia
Ynys Thurston
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYr Antarctig Edit this on Wikidata
SirArdal Cytundeb Antarctig Edit this on Wikidata
Arwynebedd15,700 km² Edit this on Wikidata
GerllawBellingshausen Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau72.23°S 98.6153°W Edit this on Wikidata
Hyd215 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Thurston

Ynys yn yr Antarctig yw Ynys Thurston. Mae'n 215 km o hyd a 90 km o led, gydag arwynebedd o 15,700 km². Saif i'r gogledd-orllewin o arfordir Tir Ellsworth ar dir mawr Antarctica. Hi yw'r drydedd ynys yn yr Antarctig yn ôl maint, ar ôl Ynys Alexander I ac Ynys Berkner. Gorchuddir yr ynys gan rew.

Fe'i darganfyddwyd gan y fforiwr Americanaidd Richard Evelyn Byrd yn 1940, ac fe'i henwyd ar ôl W. Harri Thurston o Efrog Newydd, a oedd wedi ariannu ei ymgyrch. Credid ar y cychwyn mai penrhyn ydoedd, a dim ond yn 1960 y sylweddolwyd ei bod yn ynys.