Ynys Oktyabrskoy Revolyutsii
Gwedd
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chwyldro Hydref ![]() |
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Severnaya Zemlya ![]() |
Lleoliad | Cefnfor yr Arctig ![]() |
Gwlad | Rwsia ![]() |
Arwynebedd | 14,204 km² ![]() |
Uwch y môr | 965 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Kara, Môr Laptev ![]() |
Cyfesurynnau | 79.48°N 96.83°E ![]() |
Hyd | 143 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Oktyabrskoy Revolyutsii (Rwseg: Остров Октябрьской Революции, Ostrov Oktyabrskoy Revolyutsii, "Ynys Gwrthfyfel yr Hydref"). Hi yw'r 65ed ynys mwyaf yn y byd a'r fwyaf o ynysoedd ynysfor Severnaya Zemlya.[1] Mae tua 157 km o hyd a 146 km o led, gydag arwynebedd o 14,170 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.

Mae'r ynys yn fynyddig, gyda'r copa uchaf, Mynydd Karpinsky, yn cyrraedd 965 medr. Gorchuddir canol yr ynys gan rew, gyda rhewlifoedd yn cyrraedd y môr. Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Alexandra ("Santes Alexandra").