Ynys May

Oddi ar Wicipedia
Ynys May
Mathynys, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMoryd Forth Edit this on Wikidata
SirFife Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd0.45 km² Edit this on Wikidata
GerllawMoryd Forth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.187607°N 2.556667°W Edit this on Wikidata
Hyd1.8 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Ynys May tua 5 milltir o arfordir dwyreiniol Yr Alban. Mae’r ynys tua milltir o hyd ac mae lled yr ynys llai na hanner milltir. It is about 1.5 kilometre (0.9 mile) long and 0.5 kilometre (0.3 mile) wide. Mae’r ynys yn warchodfa natur genedlaethol, yn eiddo i NatureScot[1], sy’n rheoli’r warchodfa. Mae adfeilion Priordy Sant Adrian ar yr ynys. "Adrian o May" (m. 975) oedd esgob St Andrews. Mae adeiladau eraill, megis goleudy, tai ac adeiladau eraill yn ymwneud â’r goleudy, i gyd o ddiddordeb bensaernïol neu hanesyddol.

Mae fferiau o Anstruther a Crail, Fife, a hefyd o Ogledd Berwick yn mynd â theithwyr i’r ynys, fel arfer am ddiwrnod yn unig. Mae'r siwrnai'n cymryd 45 munud. Gall hyd at 6 o bobl aros yno am wythnos. Caeir yr ynys i ymwelwyr rhwng dechrau mis Hydref a’r Pasg er mwyn osgoi aflodynnu’r morloi ifanc. Mae 2 gamera ar yr ynys, sy’n ddangos adar y clogwyni i’r ymwelwyr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Nature Scot
  2. "Gwefan Adrian Winter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-25. Cyrchwyd 2020-12-13.