Ynys Komsomolets
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | All-Union Leninist Young Communist League |
| Poblogaeth | 0 |
| Cylchfa amser | UTC+04:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Severnaya Zemlya |
| Lleoliad | Môr Kara |
| Sir | Crai Krasnoyarsk |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 9,006 km² |
| Uwch y môr | 935 metr |
| Gerllaw | Môr Kara, Môr Laptev |
| Cyfesurynnau | 80.4842°N 94.9964°E |
| Hyd | 120 cilometr |
![]() | |

Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Komsomolets (Rwseg: остров Комсомолец). Hi yw'r fwyaf gogleddol o ynysoedd Severnaya Zemlya. Mae tua 146 km o hyd a 113 km o led, gydag arwynebedd o 9,006 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.
Gorchuddir tua 65% o'r ynys gan rew, gan gynnwys maes rhew mwyaf Rwsia. Enwyd yr ynys gan y fforwyr Rwsaidd Georgy Ushakov a Nikolay Urvantsev yn 1930-32, er anrhydedd i aelodau'r Komsomol, yr "Undeb Comiwnyddol Ieuenctid". Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Mariya ("Santes Fair").
