Ymyrraeth ddyngarol
Ymyrraeth arfog gan un wladwriaeth mewn i faterion gwladwriaeth arall gyda'r nod o atal neu liniaru dioddefaint yw ymyrraeth ddyngarol.
Mae egwyddorion dyngarwch yn aml yn gwrthdaro â normau sylfaenol mewn cysylltiadau rhyngwladol, yn bennaf normau fel sofraniaeth, anymyrraeth, a diffyg defnydd o rym.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ni welwyd sefydlu cyfraith ar gyfer hawliau dynol sylfaenol tan ar ôl yr Holocost. Yn ystod y Rhyfel Oer (1945–1991) gwelwyd sofraniaeth a threfn yn bwysicach na gorfodi hawliau dynol, ac ni welwyd ymyrraeth ddyngarol arfog fel arfer gyfreithlon. Yn y 1990au bu newid mewn agweddau a datblygodd norm rhyngwladol i ddefnyddio grym i atal hil-laddiad a llofruddiaeth dorfol.[1]
Moeseg
[golygu | golygu cod]Mae rhai yn gweld ymyrraeth ddyngarol fel dyletswydd moesol sydd y tu allan i awdurdod cyfraith ryngwladol. Dadleir bod sofraniaeth wladwriaethol yn deillio o gyfrifoldeb y wladwriaeth i ddiogelu ei dinasyddion, a chollir y sofraniaeth hon mewn achosion o hil-laddiad neu lofruddiaeth dorfol.[2]
Gall safbwyntiau moesol o blaid ymyrraeth ddyngarol bod yn gysylltiedig â damcaniaeth y rhyfel cyfiawn.[2]
Cyfraith ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae'r ddadl gyfreithiol ryngwladol o blaid ymyrraeth ddyngarol, a elwir yn wrth-gyfyngiadaeth, yn dibynnu ar ddwy ffynhonnell: Siarter y Cenhedloedd Unedig, a chyfraith ryngwladol arferol.
Siarter y Cenhedloedd Unedig
[golygu | golygu cod]Mae Siarter y Cenhedloedd Unedig (a ddaeth i rym ym 1945) yn rhwymo aelod-wladwriaethau'r CU i ddiolegu hawliau dynol sylfaenol. Gwelir gwrth-gyfyngiadwyr bod y bwyslais ar hawliau dynol yn y Siarter (a grybwyllir yn y rhaglith,[3] ac erthyglau 1(3),[4] 55,[5] a 56)[5] yn amlygu eu pwysigrwydd gymaint â heddwch a diogelwch, ac felly yn awgrymu eithriad dyngarol i'r gwaharddiad ar ddefnydd grym a nodir yn Erthygl 2(4) y Siarter,[6] a ddywed:
“ | Bydd yr holl Aelodau yn ymatal yn eu cysylltiadau rhyngwladol rhag bygythiad neu ddefnydd grym yn erbyn cyfanrwydd tiriogaethol neu annibyniaeth wleidyddol unrhyw wladwriaeth, neu mewn unrhyw fodd arall sydd yn anghyson ag Amcanion y Cenhedloedd Unedig.[4] | ” |
Er dadleuon y gwrth-gyfyngiadwyr, mae'r farn fwyafrifol ar gyfraith ryngwladol, a barnau cynllunwyr y Siarter ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn groes i'r syniad bod y Siarter yn caniatáu ymyrraeth ddyngarol.[2] Mae cyfreithwyr rhyngwladol ar yr ochr gyfyngiadol yn dadlau nad oes unrhyw eithriadau i Erthygl 2(4), a bod gwaharddiad llwyr amlwg ar unrhyw ddefnydd o rym ymyrrol sydd heb ei awdurdodi gan Gyngor Diogelwch y CU.[7]
Cyfraith ryngwladol arferol
[golygu | golygu cod]Mae rhai gwrthgyfyngiadwyr yn cydnabod nad oes sail gyfreithiol ar gyfer ymyrraeth ddyngarol unochrog yn Siarter y CU, ond honnant ei bod yn cael ei chaniatáu dan gyfraith ryngwladol arferol. O dan egwyddor opinio juris, mae rheol yn rhan o gyfraith ryngwladol arferol os yw gwladwriaethau yn ei hymarfer and yn gwneud hynny gan eu bod yn credu ei bod yn gyfreithlon. Yn achos y ddadl hon, mae'r hawl arferol i ymyrraeth ddyngarol yn rhagflaenu Siarter y CU, gan i ddyngarwch gael ei ddefnyddio i gyfiawnháu ymyrraeth gan Brydain, Ffrainc, a Rwsia yn Rhyfel Annibyniaeth Groeg ym 1827 ac ymyrraeth gan yr Unol Daleithiau yng Nghiwba, y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd, ym 1898.[2]
Cyfyngiadau a gwrthwynebiad
[golygu | golygu cod]Mae rhai realwyr mewn damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn dadlau nad yw ymyrraeth ddyngarol yn gymhelliad gonest am ymyrraeth mewn materion gwladwriaeth arall. Maent yn gweld grym gyrru'r wladwriaeth fel ymddwyn o fewn buddiannau'r wlad, ac yn anaml mae ymyrraeth ddyngarol "bur" o fudd i'r wladwriaeth. Mae realwyr hefyd yn credu, yn unol â damcaniaeth gwladoliaeth, nad oes hawl foesol gan wleidyddion i beryglu bywydau milwyr eu gwladwriaeth i achub bywydau sifiliaid tramor.[7]
Dadl arall yn erbyn ymyrraeth ddyngarol yw aneffeithioldeb. Mae rhai rhyddfrydwyr o fewn damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn dadlau ei fod yn amhosib i allanwyr i sicrháu hawliau dynol, gan fod y wladwriaeth yn bodoli ar sail cydsyniad mewnwladol. Cred John Stuart Mill oedd y dylai pobloedd a ormeswyd dymchwel eu llywodraethau eu hunain.[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Bellamy a Wheeler, t. 524.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Bellamy a Wheeler, t. 526.
- ↑ (Saesneg) Siarter y Cenhedloedd Unedig, Rhaglith. Y Cenhedloedd Unedig.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Siarter y Cenhedloedd Unedig, Pennod I: Amcanion ac Egwyddorion. Y Cenhedloedd Unedig.
- ↑ 5.0 5.1 (Saesneg) Siarter y Cenhedloedd Unedig, Pennod IX: Cydweithrediad Economaidd a Chymdeithasol Rhyngwladol. Y Cenhedloedd Unedig.
- ↑ Bellamy a Wheeler, t. 524–525.
- ↑ 7.0 7.1 Bellamy a Wheeler, t. 527.
- ↑ Bellamy a Wheeler, t. 528.
ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Bellamy, Alex J. a Wheeler, Nicholas J. (2008) 'Humanitarian intervention in world politics'. Mewn The Globalization of World Politics, golygwyd gan John Baylis, Steve Smith a Patricia Owens, t. 522–539. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Evans, Graham a Newnham, Jeffrey. (1998) The Penguin Dictionary of International Relations. Llundain: Penguin.
- Griffiths, Martin (gol.). (2008) Encyclopedia of International Relations and Global Politics. Efrog Newydd: Routledge.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Holzgrefe, J. F. & Keohane, R. (gol.) (2002) Humanitarian Intervention: Ethical, Legal and Political Dilemmas. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
- Seybolt, T. B. (2007) Humanitarian Military Intervention: The Conditions for Success and Failure. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Welsh, J. M. (gol.) (2004) Humanitarian Intervention and International Relations. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.