Ymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
![]() | |
Enghraifft o: | coup de main, sabotage, cyrch awyr ![]() |
---|---|
Dyddiad | Mehefin 2025 ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Rhan o | Rhyfel Israel-Iran ![]() |
Dechreuwyd | 13 Mehefin 2025 ![]() |
Olynwyd gan | Operation True Promise III ![]() |
Lleoliad | Isfahan, Sir Natanz, Sir Qom, Sir Bushehr, Ardal Wledig Khondab, Tehran ![]() |
Enw brodorol | מבצע עם כלביא ![]() |
Gwladwriaeth | Iran ![]() |
![]() |
Fel huddug i botas, ar 13 Mehefin 2025, ymosododd Israel ar dargedau sifilaidd a milwrol mewn mwy na dwsin o lefydd ledled Iran, yn yr hyn a elwir yn Ymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025. O dan yr enw cyfrin, Israelaidd, Operation Rising Lion[1][2] a chyda'r nod "o atal Iran rhag datblygu arfau niwclear",[3] difrododd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) a Mossad (asiantaeth diogelwch) safleoedd niwclear allweddol Iran, a llofruddio nifer o brif arweinwyr milwrol Iran a gwyddonwyr (sifiliaid).[4] Roedd yn ymosodiad ar seilwaith sifil Iran, megis safleoedd puro dŵr a chanolfan deledu'r wlad; galwodd Benjamin Netanyahu am ladd arweinyddion Iran.[5] Ymatebodd Iran drwy ddatgan fod ymosod Israel yn 'ddatganiad rhyfel'.[6]
Yr ymosodiad hwn oedd yr ymosodiad mwyaf ar Iran ers Rhyfel Iran-Irac yn y 1980au.[7] Digwyddodd yn ystod hil-laddiad y Palesteiniaid yn Llain Gaza, gan Israel. Mae'n ffaith fod gan Israel 300 i 400 o fomiau niwclear.
Yn gynnar fore 13 Mehefin 2025, adroddwyd am ffrwydradau ledled Tehran.[8] Adroddodd Iran fod yr ymosodiad wedi lladd pennaeth Corfflu Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC) Hossein Salami,[9][10][11] Pennaeth Staff Lluoedd Arfog Iran, yr Uwchfrigadydd Mohammad Bagheri,[12] y gwyddonwyr niwclear Fereydoon Abbasi a Mohammad Mehdi Tehranchi[13], a sifiliaid Iranaidd eraill.[14] Dinistriodd yr ymosodiadau cychwynnol a'r rhai a ddilynodd gyfleuster niwclear Natanz a difrodi cyfleuster puro wraniwm yn Isfahan.[15][16] Ymddengys fod ymosodiadau Israel ar Waith Puro Tanwydd yn Fordow wedi methu gan fod yr adeilad a'r offer wedi'i leoli o dan y Ddaear.[15][16] Trawodd Israel hefyd adeilad cadw taflegrau ger Tabriz, canolfan taflegrau yn Kermanshah, a chyfleusterau IRGC ger Tehran ac yn Piranshahr.[15][16] Fe wnaeth yr ymosodiadau hefyd ddifrodi seilwaith cyhoeddus ar dai sifiliaid.


Yn hwyr fin nos, ar 13 Mehefin, dechreuodd Iran lansio taflegrau balistig a dronau at Israel,[17] fel dial am yr hyn a wnaeth Israel.
Cafodd yr ymosodiadau gan Israel eu condemnio’n eang yn rhyngwladol ond cawsant eu canmol gan yr Unol Daleithiau. Galwodd sawl gwlad ar Israel ac Iran i dawelu tensiynau (gw. isod).
Adroddodd Asiantaeth Newyddion Fars fod o leiaf 78 o bobl, gan gynnwys menywod a phlant,[18] wedi cael eu lladd a 329 arall wedi cael eu hanafu ar 13 Mehefin. Dyfynnodd llysgennad Iran i'r Cenhedloedd Unedig, Amir-Saeid Iravani, y ffigur hwn yn ei anerchiad i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar noson yr ymosodiadau, gan ddweud mai sifiliaid oedd mwyafrif y rhai a laddwyd.[19] Adroddodd ffynhonnell arall fod o leiaf 90 wedi marw.[20]
Daeth y berthynas agos rhwng Israel ac Iran i ben gyda Chwyldro Islamaidd 1979,[21] a sefydlu llywodraeth newydd a ddisodlodd frenhiniaeth absoliwt Iran, a oedd yn rhannol o blaid y Gorllewin, Yn ei lle daeth gweriniaeth Islamaidd o dan yr Ayatollah Ruhollah Khomeini, a feirniadodd, fel llawer o wledydd eraill feddiannaeth Israel o diriogaethau Palesteinaidd. Mae arweinwyr y Weriniaeth Islamaidd wedi addo dro ar ôl tro i ddinistrio Israel [22] [23], y maent yn ei alw'n bresenoldeb estron ac imperialaidd yn y Dwyrain Canol.[24][25][26][27] Mae Tehran hefyd wedi cynnal rhyfel dirprwyol yn erbyn Israel drwy'r "Echel y Gwrthsafiad", rhwydwaith o filisia cynghreiriaid gan gynnwys Hezbollah, Hamas, yr Houthis, a grwpiau Iracaidd.[28]
Ar y llaw arall, mae Israel hefyd wedi galw am ddileu Iran. Yn 2024, yng nghanol tensiynau rhanbarthol cynyddol yn deillio o ryfel Gaza, cynyddodd tensiynau Iran-Israel i gyfnod o wrthdaro uniongyrchol; gyrrodd Israel daflegrau at Iran a llofruddiodd Israel lawer o ddinasyddion Iran a Syria. Ar 8 Mai 2006, dywedodd Is-Brif Weinidog Israel Shimon Peres mewn cyfweliad â Reuters “y dylai arlywydd Iran gofio y gall Iran hefyd gael ei dileu oddi ar y map”; fe'i beirniadwyd yn hallt gan arweinwyr llawer iawn o wledydd y byd am y bygythiad hwn.[29][30]
Yn dilyn yr ymosodiad gan Israel, galwodd rhai Aelodau Senedd yr Unol Daleithiau am ddifa Tehran gyda bom atomig.[31]
Mae llywodraethau Israel wedi dadlau ers tro y gallai Iran â harfau niwclear ddinistrio Israel.[32][33] Yng nghanol y 2000au, difethodd yr Unol Daleithiau ac Israel gyfleusterau niwclear Iran fel rhan o Ymgyrch y Gemau Olympaidd.[34] Ers 2010, mae nifer o wyddonwyr niwclear Iranaidd wedi cael eu llofruddio ac Israel sy'n cael eu beio, er eu bod yn gwadu cyfrifoldeb.[35][36][37]
Yn 2015, llofnododd Iran y Cynllun Gweithredu Cynhwysfawr ar y Cyd (JCPOA; Joint Comprehensive Plan of Action), a drafodwyd gan yr Arlywydd Barack Obama, gyda Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a'r Almaen i reoli datblygiad niwclear sifil Iran ar lefel gyfyngedig.[38] Roedd y cytundeb yn rhoi'r hawl i Iran (fel 35 o wledydd eraill y byd) i gynhyrchu trydan mewn atomfeydd, ac yn gwahardd creu bomiau atomig. I gynhyrchu trydan mae'n rhaid 'puro' y plwtoniwm; mae'r broses yma'n debyg iawn i'r broses o buro plwtoniwm ar gyfer bom niwclear.
Yn 2018, torrodd Arlywydd America Donald Trump y cytundeb ac ailddechreuodd sancsiynau economaidd yn erbyn Iran, er gwaethaf yr adroddiad gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) bod Iran yn cadw at y cytundeb.[38] Yn 2019, cyflymodd Iran ei datblygiad niwclear sifil, ac erbyn 2021, gan gyfoethogi wraniwm i 60% o ran purdeb.[38]
Beirniadaeth gan wledydd y byd
[golygu | golygu cod]Y wlad Ewropeaidd gyntaf i feirniadu Israel yn hallt oedd y Ffindir.[39] Dywedodd Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, ei fod yn "bryderus iawn am y streiciau awyr ar Iran". Dywedodd Kedir Starmer, "Nawr yw’r amser ar gyfer ataliaeth, tawelu a dychwelyd i ddiplomyddiaeth." Mae Llywodraeth Japan wedi condemnio gweithredoedd Israel hyn yn gryf; fe ddywedon nhw: "Mae'r defnydd o ddulliau milwrol yng nghanol yr ymdrechion diplomyddol parhaus, gan gynnwys sgyrsiau UDA-Iran sydd wedi'u hanelu at ddatrys mater niwclear Iran yn heddychlon, yn gwbl annerbyniol ac yn destun gofid mawr."[40]
Disgrifiodd Gweinidog Tramor Pacistan, Ishaq Dar, yr ymosodiadau fel rhai “anghyfiawn”. Nododd Gweinidog dros Faterion Tramor Indonesia, "Mae Indonesia yn condemnio’n gryf ymosodiad Israel ar Iran". Condemniodd gweinidogaeth dramor Tsieina Israel am dorri sofraniaeth Iran. Mynegodd yr Undeb Affricanaidd bryder mawr ynghylch yr ymosodiadau a'r gelyniaeth gynyddol. Galwodd Oman, sydd wedi chwarae rhan allweddol fel cyfryngwr mewn trafodaethau niwclear diweddar rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, ymosodiad Israel gan fynnu ei fod yn ymosodiad "peryglus a di-hid" a oedd yn torri cyfraith ryngwladol. Mae Catar, Saudi Arabia, Brasil a Thwrci hefyd wedi condemio ymosodiad Israel ar diriogaeth Iran. Dywedodd yr Emiradau Arabaidd Unedig ei fod yn “condemnio yn y termau cryfaf” y ffaith bod Israel yn targedu Iran. Dywedodd Rwsia bod ymosodiadau Israel ar Iran yn ddigymell ac yn torri siarter y Cenhedloedd Unedig.[41]
Arfau niwclear
[golygu | golygu cod]- Prif: Rhaglen niwclear Iran
- Prif: Arfau niwclear Israel
Yn bennaf, ymosodiad ar adeiladau puro plwtoniwm oedd hwn, ac felly mae'n rhaid edrych ar allu'r ddwy ochr i greu arfau niwclear.
Mae'n ffaith fod gan Israel arfau niwclear: mae'r amcangyfrifon yn amrywio rhwng 90 a 400 o fomiau niwclear,[42][43][44][45] gydag awyrenau F-15 ac F-16 a'r llongdanfor, y Doffin yn mdedru eu cludo a'u danfon i ben eu taith.[46][47] Credir bod ei arf niwclear cyflawn cyntaf wedi'i gwblhau ddiwedd 1966 neu ddechrau 1967; a fyddai'n gwneud Israel y chweched wlad yn y byd i ddatblygu y fath fomiau.[48][49][50]
Dechreuodd rhaglen niwclear Iran yn y 1950au. Nid oes ganddyn nhw fomiau niwclear. Mae rhaglen niwclear Iran yn cael eu harsylwi a'u craffu fwyaf yn y byd: yn bennaf gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA). Ym Mawrth 2025, dywedodd cyfarwyddwr cudd-wybodaeth genedlaethol yr Unol Daleithiau, Tulsi Gabbard, fod asiantaethau'r Unol Daleithiau yn credu "nad yw Iran yn adeiladu arf niwclear ac nad yw Goruchaf arweinydd [Iran], Ayatollah Ali Khamenei, wedi awdurdodi'r rhaglen arfau niwclear a ataliwyd ganddo yn 2003".[51]
Yn Hydref 2023, amcangyfrifodd adroddiad IAEA fod Iran wedi cynyddu ei pentwr stoc wraniwm 22 gwaith yn fwy na'r hyn a gytunwyd gyda'r JCPOA.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Netanyahu Says Operation 'Rising Lion' Will Last 'as Many Days as It Takes'". The Wall Street Journal. 13 Mehefin 2024.
- ↑ "Israel launches Operation Rising Lion to target Iran's nuclear threat". The Jerusalem Post. 13 Mehefin 2025.
- ↑ Teele Rebane; Katie Polglase; Gianluca Mezzofiore; Christian Edwards; Henry Zeris; Avery Schmitz (13 Mehefin 2025). "How Israel's campaign to wipe out Iran's nuclear program unfolded". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ "In Iran, grief for civilian casualties but little pity for commanders". BBC News (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ wsws.org; Teitl: Israel attacks civilian infrastructure in Iran as Netanyahu calls for regime change; adalwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ lemonde.fr; Teitl: Iran calls Israel attack a 'declaration of war' and retaliates as Netanyahu announces 'more is on the way'; adalwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ "Israel attacks Iran's nuclear and missile sites with explosions heard across Tehran. Live updates here". CTVNews (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Fassihi, Farnaz; Nauman, Qasim; Boxerman, Aaron; Kingsley, Patrick; Bergman, Ronen (13 Mehefin 2025). "Israel Strikes Iran's Nuclear Program, Killing Top Military Officials: Live Updates". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "مرگ سردار سلامی و تنی چند از فرماندهان سپاه" [Death of General Salami and several IRGC commanders]. IRNA (yn Perseg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Iran's Revolutionary Guard commander Hossein Salami killed in Israeli strike, says Iranian state media". The Times of Israel (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Hossein Salami, Head of Iran's Islamic Revolutionary Guard Corps, Killed in Israel's Attack". The Wall Street Journal (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Israeli strikes kill some of Iran's most powerful men, including military and nuclear leaders" (yn Saesneg). CNN. 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Iran state media names two nuclear scientists killed in Israeli strike". The Times of Israel. 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "In Iran, grief for civilian casualties but little pity for commanders". BBC News (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 "Satellite imagery reveals damage to key Iran nuclear sites". BBC (yn Saesneg). 15 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ 16.0 16.1 16.2 Picheta, Rob (14 Mehefin 2025). "Israel attacked three key Iranian nuclear facilities. Did it strike a decisive blow?". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ Erlanger, Steven (13 Mehefin 2025). "At a Weak Moment, Iran Weighs Difficult Options to Respond to Israel". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ "'It's the civilians who will pay the price': Iranians prepare for the worst after Israeli strikes" (yn Saesneg). France 24. 14 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
He was a civilian,” she said. “He had nothing to do with it.
- ↑ "78 people have been killed in Israel's attacks on Iran: UN ambassador". Al Jazeera. 13 Mehefin 2025. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Trump struggles with Iran message as Republicans diverge over attack". BBC News (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ von Hein, Shabnam (13 Mehefin 2025). "Why are Iran and Israel sworn enemies?". Deutsche Welle. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Boxerman, Aaron (12 Mehefin 2025). "Why Israel Mai Be Considering an Attack on Iran". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ Levs, Josh (10 Tachwedd 2014). "Iran leader's call to 'annihilate' Israel sparks fury as nuclear deadline looms". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ Sykes, Patrick; Bronner, Ethan; Capaccio, Anthony (13 Mehefin 2025). "Israel and Iran Have Been Enemies for Decades. What Next?". Bloomberg L.P. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Iranian nuclear threat meant Israelis had no choice". The Australian. 13 Mehefin 2025.
- ↑ "Why are Iran and Israel sworn enemies?". Business Standard (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Hjelmgaard, Kim (13 Mehefin 2025). "What we know about Israel's attacks on Iran's nuclear sites − and Iran's drone response". USA Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Goldbaum, Christina (13 Mehefin 2025). "Israel's Strike on Iran Comes at a Moment of Weakness for Iran's Proxies". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ "Peres says that Iran 'can also be wiped off the map'". Dominican Today. 8 Mai 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Peres: Iran nuclear policy could backfire". ynet. 8 Mai 2006. Cyrchwyd 18 Mai 2016.
- ↑ consortiumnews.com; Teitl: A Threat to Nuke Tehran; adalwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ von Hein, Shabnam (13 Mehefin 2025). "Why are Iran and Israel sworn enemies?". Deutsche Welle. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Sykes, Patrick; Bronner, Ethan; Capaccio, Anthony (13 Mehefin 2025). "Israel and Iran Have Been Enemies for Decades. What Next?". Bloomberg L.P. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ Sanger, David E. (13 Mehefin 2025). "Israel's Ambition: Destroy the Heart of Iran's Nuclear Program". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ Sherwood, Harriet (11 Ionawr 2012). "Iran nuclear scientist's death followed Israeli warning of 'unnatural' events". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ "Magnet bombs to missiles: Israel's history of assassinating Iran's key nuclear scientists". TRT Global (yn Saesneg). 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ Ben Zion, Ilan (9 Chwefror 2012). "NBC: US officials say Mossad has been training group killing Iranian scientists". The Times of Israel (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
- ↑ 38.0 38.1 38.2 Tirone, Jonathan (13 Mehefin 2025). "How Close Is Iran to a Nuclear Weapon as Trump Eyes a Deal?". Bloomberg L.P. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.
- ↑ middleeasteye.ne; Tetil: Israel's attack on Iran: How the world reacted; adalwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ mofa.go.jp; Teitl: Ministry of Foreign Affairs Japan; adalwyd 17 Mehefin 2025.
- ↑ middleeasteye.net; Teitl: Israel's attack on Iran: How the world reacted; adalwyd 16 Mehefin 2025.
- ↑ Kristensen, Hans M.; Norris, Robert S. (2014). "Israeli nuclear weapons, 2014". Bulletin of the Atomic Scientists 70 (6): 97–115. Bibcode 2014BuAtS..70f..97K. doi:10.1177/0096340214555409. http://bos.sagepub.com/content/70/6/97.full.pdf+html.
- ↑ Report: Argentina sold yellowcake to Israel for nuclear program – Israel Hayom
- ↑ "Nuclear Weapons: Who Has What at a Glance". Arms Control Association. Cyrchwyd 2017-09-24.
- ↑ "Status of World Nuclear Forces – Federation Of American Scientists". Fas.org.
- ↑ "Jericho 3". missilethreat.csis.org. Center for Strategic and International Studies. Cyrchwyd 15 Awst 2017.
- ↑ "Nuclear weapons – Israel". Federation of American Scientists. Cyrchwyd July 1, 2007.
- ↑ "Israel's Nuclear Weapon Capability: An Overview". Wisconsin Project on Nuclear Arms Control. Awst 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 29, 2015. Cyrchwyd 2015-05-03.
- ↑ Nuclear Proliferation International History Project. "Israel's Quest for Yellowcake: The Secret Argentina-Israel Connection, 1963–1966". Woodrow Wilson International Center for Scholars.
- ↑ "Nuclear Overview". Israel. NTI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 2, 2009. Cyrchwyd Mehefin 23, 2009.
- ↑ "Israel launches an attack on Iran—without America". The Economist. 13 Mehefin 2025. Cyrchwyd 13 Mehefin 2025.