Neidio i'r cynnwys

Ymosodiad nerth pur

Oddi ar Wicipedia

Ymosodiad technolegol yw ymosodiad nerth pur pan fydd ymosodwr yn ceisio dyfalu cyfrinair drwy roi cynnig ar nifer fawr o gyfrineiriau yn y gobaith o ganfod yr un cywir. Yr hyn sy'n gwneud ymosodiad nerth pur yn wahanol i ymosodiadau eraill yw nad yw'n dibynnu ar wybodaeth am gyfrinair rhywun; yn hytrach, mae'n dibynnu ar roi cynnig ar bob posibilrwydd tan i'r un cywir gael ei ganfod. Mae angen llawer o adnoddau cyfrifiadurol er mwyn cynnal ymosodiad nerth pur, a'r hiraf yw cyfrinair, y mwyaf o adnoddau ac amser sydd ei angen er mwyn cracio'r cyfrinair a llwyddo yn yr ymosodiad.[1]

Cyfeirnodau

[golygu | golygu cod]
  1. "What is a brute force attack?". Cloudflare. Cyrchwyd 22 Mawrth 2025.