Ymosodiad Parc Finsbury

Oddi ar Wicipedia
Ymosodiad Parc Finsbury
Enghraifft o'r canlynolymosodiad terfysgol â cherbyd Edit this on Wikidata
Dyddiad19 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
AchosIslamoffobia edit this on wikidata
LleoliadSeven Sisters Road Edit this on Wikidata
Map
Gorsaf Parc Finsbury

Digwyddodd ymosodiad Parc Finsbury, Llundain, ar 19 Mehefin 2017 pan yrrwyd fan yn fwriadol i mewn i gerddwyr Mwslemaidd.

Collodd un dyn ei fywyd ger Mosg Parc Finsbury - o bosib oherwydd yr ymosodiad. Anafwyd 10 o Fwslemiaid yn ddifrifol hefyd gan y fan, wedi iddynt fod yn gweddio mewn Tarawih, sef cyfarfod gweddi yn adeg Ramadan.[1][2] Ystyriwyd y digwyddiad i ddechrau fel llofruddiaeth ac yna fel digwyddiad terfysgol.[3]

Llogwyd y fan o gwmni Pontyclun Van Hire, Rhondda Cynon Taf. Daliwyd gyrrwr y fan gan y Mwslemiaid, a gwarchodwyd ef rhag niwed gan swyddogion y Mosg, a'i drosgwlwyddo i'r heddlu pan y cyrhaeddon nhw.[4] Enwyd y dyn dan amheuaeth gan yr heddlu: Darren Osborne, 47-oed a thad i bedwar o blant o Gaerdydd, ond a fagwyd yn Weston-super-Mare.[5]

Digwyddodd yr ymosodiad yn etholaeth seneddol yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn. “An attack on a mosque, an attack on a synagogue, an attack on a church is actually an attack on all of us,” meddai Corbyn.[6] Roedd hyn yn dilyn sawl ymosodiad terfysgol tebyg gan gynnwys Pont Llundain a ffrwydriad yn Arena Manceinion.

Ar 1 Chwefror 2018, cafwyd Darren Osborne yn euog o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio yn Llys y Goron Woolwich.[7] Ar 2 Chwefror, fe gafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, ac i dreulio o leiaf 43 o flynyddoedd dan glo.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Van Hits Pedestrians Near a Mosque in London, Killing One, New York Times, 18 Mehefin 2017
  2. "LATEST: Incident in Finsbury Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-19. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
  3. Malkin, Bonnie (19 Mehefin 2017). "Finsbury Park: casualties as van crashes into pedestrians near London mosque – live updates". The Guardian. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. Sharman, Jon (19 Mehefin 2017). "Finsbury Park mosque attack: Imam 'protected van driver' from angry public after crash". The Independent. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
  5. "Finsbury Park attack suspect named as Darren Osborne". BBC News. 19 Mehefin 2017. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
  6. "Finsbury Park Mosque: Jeremy Corbyn cheered as he speaks to witnesses and emergency services at scene". Unknown parameter |gwefan= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)
  7. "Finsbury Park: Darren Osborne yn euog", Golwg360 (1 Chwefror 2018). Adalwyd ar 2 Chwefror 2018.
  8. "Oes o garchar i Darren Osborne", Golwg360 (2 Chwefror 2018). Adalwyd ar 2 Chwefror 2018.