Ymddiriodolaeth Natur Gogledd Cymru
![]() | Awgrymir cyfuno'r erthygl neu'r adran hon â [[::Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru|Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru]]. (Trafodwch) |
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n ymddiriedolaeth natur sy’n rheoli 36 o warchodfeydd natur yng ngogledd Cymru a hefyd yn gweithio â sefydliadau eraill a pherchnogion tir i warchod a chysylltu safleoedd bywyd gwyllt ledled yr ardal ac i ysbrydoli cymunedau lleol a phobl ifanc i ofalu am fywyd gwyllt.
Ffurfiwyd yr ymddiriodolaeth, fel Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru, ar Hydref 26ain 1963. Dros y blynyddoedd, mae nifer y gwarchodfeydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu’n gyson, gan orchuddio mwy na 750 o hectarau erbyn hyn, diolch i roddion ar ffurf tir a phrynu safleoedd drwy godi arian. Rydyn ni’n cyflogi mwy na 30 o aelodau o staff yn awr ac yn rheoli cyllideb sy’n fwy nag £1,500,000.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr o warchodfeydd Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru