Yerba mate

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yerba mate yn tyfu yn y gwyllt

Mae Yerba mate (o Sbaeneg [ˈʝeɾβa ˈmate] ; Portiwgaleg: erva-mate [ˈƐɾvɐ ˈmate] neu [ˈɛɾvɐ ˈmatʃɪ] ; Gwarani ka'a) yn rhywogaeth o'r genws celynnen (Ilex), a'i enw botanegol yw Ilex paraguariensis.[1] Cafodd ei enw gan y botanegydd Ffrengig Auguste François César Prouvençal de Saint-Hilaire.[2]

Defnyddir Yerba mate i wneud trwyth-ddiod a elwir yn mate. Pan gaiff ei weini'n oer, gelwir y ddiod yn tereré yn Guaraní. Yn draddodiadol caiff ei ddefnyddio yn rhanbarthau canolog a deheuol De America, yn bennaf yn Paraguay, yn ogystal ag yn yr Ariannin, Uruguay, Brasil, canolbarth a gorllewin Brasil, rhanbarth Chaco ym Bolifia a de Tsile.[3] Mae hefyd yn boblogaidd yn y gymuned Druze yn Syria a Libanus, lle mae'n cael ei fewnforio o'r Ariannin.[4] Tyfwyd a defnyddiwyd Yerba mate am y tro cyntaf gan bobl gynhenid Guaraní ac mewn rhai cymunedau Tupí yn ne Brasil, cyn y gwladychu Ewropeaidd. Gellir dod o hyd i Yerba mate mewn gwahanol ddiodydd ynni ar y farchnad, yn ogystal â chael eu gwerthu mewn potel neu mewn can fel te rhewoer.

Yerba ar werth ym marchnad awyr agored La Boqueria yn Barcelona, Catalunya

Mae Yerba mate yn golygu "perlysieuyn mate", ae daw mate yn wreiddiol o'r gair Quechua mati, [5] gair cymhleth gydag ystyron lluosog. Mae mati yn golygu "cynhwysydd ar gyfer diod", "trwyth-ddiod o berlysiau", yn ogystal â " gourd".

Mae Yerba mate, neu Ilex paraguariensis, yn dechrau fel prysglwyn ac yna'n aeddfedu i goeden. Mae'n gallu tyfu hyd at 15 metr (49 ft) o uchder. Mae'r dail yn fytholwyrdd, 7–110 millimetr (0.3–4.3 in) o hyd a 30–55 millimetr (1.2–2.2 in) o led, gydag ymyl danheddog. Gelwir y dail yn aml yn yerba (Sbaeneg) neu erva (Portiwgaleg), y ddau yn golygu "perlysiau". Maent yn cynnwys caffein (sy'n ael ei adnabod mewn rhai rhannau o'r byd fel mateine) ac maent hefyd yn cynnwys alcaloidau xanthine ac yn cael eu cynaeafu'n fasnachol.

Mae'r blodau yn fach, yn wyrdd-gwyn, gyda phedair petal. Mae'r ffrwyth yn aeronen goch 4–6 millimetr (0.16–0.24 in) mewn diamedr.

Mae'r planhigyn yerba mate yn cael ei dyfu a'i brosesu yn Ne America, yn benodol yng ngogledd yr Ariannin (Corrientes, Misiones), Paraguay, Uruguay a de Brasil (Rio Grande do Sul, Santa Catarina, Paraná a Mato Grosso do Sul). Gelwir y rhai sy'neu tyfu yn yerbateros (Sbaeneg) neu ervateiros (Portiwgaleg Brasil).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "ITIS Report". itis.gov. Cyrchwyd 26 February 2015.
  2. "Index of Botanists". harvard.edu. Cyrchwyd 4 March 2015.
  3. World Conservation Monitoring Centre (1998). "Ilex paraguariensis". The IUCN Red List of Threatened Species (IUCN) 1998: e.T32982A9740718. doi:10.2305/IUCN.UK.1998.RLTS.T32982A9740718.en. http://oldredlist.iucnredlist.org/details/32982/0. Adalwyd 9 January 2018.
  4. "Argentina's 'yerba mate' crunch". globalpost.com. Cyrchwyd 30 April 2015.
  5. Real Academia Española. "Mate". Retrieved 23 May 2013