Yar Slavutych

Oddi ar Wicipedia
Yar Slavutych
GanwydГригорій Михайлович Жученко Edit this on Wikidata
11 Ionawr 1918 Edit this on Wikidata
Sir Aleksandriya Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Edmonton Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Zaporizhzhia National University
  • Prifysgol Pennsylvania Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cyfieithydd, hanesydd, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod, Dosbarth lll Edit this on Wikidata

Llenor Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Yar Slavutych (11 Ionawr 19184 Gorffennaf 2011).[1] Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.

Ganwyd yn Blahodatne yng nghanolbarth yr Wcráin. Bu farw ei daid, ei nain, a'i chwaer ieuangaf yn newyn 1932–33. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd ganddo statws person wedi ei ddadleoli yn yr Almaen, a chafodd ei dderbyn i ymfudo i'r Unol Daleithiau. Astudiodd am radd meistr a doethuriaeth ym Mhrifysgol Pensylfania a symudodd i Monterey, Califfornia, i addysgu yn Ysgol Iaith y Fyddin. Symudodd gyda'i deulu yn ddiweddarach i Edmonton, Alberta, yng Nghanada ac yno bu'n athro yn Adran Ieithoedd Slafonaidd Prifysgol Alberta o 1960 nes iddo ymddeol yn 1988. Roedd yn llenor ac yn ysgolhaig torieithog yn yr Wcreineg a'r Saesneg, ac ymhlith ei weithiau mae'r gyfrol o farddoniaeth Zavojovnyky prerij (1968) a chyfres boblogaidd o werslyfrau Wcreineg.

Bu farw yn Edmonton yn 93 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Obituary: Yar Slavutych", Edmonton Journal (9 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Wolodymyr T. Zyla (gol.), Postscript to Posterity: Writings by and about Yar Slavutych (Edmonton: Slavuta, 2003).