Y we fyd-eang

Oddi ar Wicipedia
"Nodion Gwyddonol", Y Cymro: 23 Gorffennaf 1969. Disgrifiad proffwydol Owain Owain o'r we fyd-eang a'i effaith ar addysg.

Mae'r We Fyd-Eang yn gasgliad o ddogfennau uwch-destun (neu hypertext; gweler HTTP), lle defnyddir y rhyngrwyd i'w cysylltu. Gyda phorwr gwe, gall defnyddiwr weld tudalennau sy'n cynnwys testun, delweddau, sain a fideo, a theithio o dudalen i dudalen gan ddefnyddio hyperlinks.

Dyfeisiwyd y We Fyd Eang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989. Ceir sawl dyddiad am enedigaeth y We fyd-eang, a'r mwyaf poblogaidd o'r rhain yw'r dyddiad pan gyhoeddodd Tim Berners-Lee femo yn gwahodd pobl y tu allan i CERN i gydweithio ar y prosiect.[1]

Rhan o wefan Curiad, y wefan Gymraeg gyntaf; Medi 1997.
Cytundeb CERN i ganiatau i weddill y byd ddefnyddio'r we.

Ar 30 Ebrill 1993, rhoddodd CERN ganiatad i'r we gael ei defnyddio'n agored ac am ddim gan weddill y byd.

Y We yn Gymraeg[golygu | golygu cod]

Y tro cyntaf y soniwyd yn Gymraeg am y we oedd ar 23 Gorffennaf 1969 gan y gwyddonydd Owain Owain: 'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys S. Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'[2]

Y wefan Gymraeg gyntaf oedd Curiad a lansiwyd gan Dafydd Tomos ar y rhestr ebyst WELSH-L ar 13 Ebrill 1995. Roedd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a siartiau Cymraeg. Roedd yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio yn uniaith Gymraeg yn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw wedi'i archifo.[3][4]

Rhoddwyd y gyfrol Gymraeg gyntaf ar y we ar 1 Rhagfyr 1996, sef cyfrol o farddoniaeth gan Robin Llwyd ab Owain: Rebel ar y we.[5]

Cyfeiriad[golygu | golygu cod]

  1. dw.com; adalwyd 6 Awst 2016.
  2. Gwefan Owain Owain
  3. listserv.heanet.ie; adalwyd 2 Mai 2018.
  4. tiki-toki.com; adalwyd 2 Mai 2018.
  5. Rhedeg ar Wydr
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am y we fyd-eang
yn Wiciadur.