Y glust fewnol
Enghraifft o'r canlynol | organ part type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | clwstwr anatomegol heterogenaidd, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | clust |
Cysylltir gyda | y glust ganol |
Yn cynnwys | cochlea, vestibule of the ear, semicircular canal, oval window, round window, labyrinth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y glust fewnol (Lladin: auris interna) yw'r rhan fwyaf mewnol o'r glust fertebraidd. Yn fertebratau, mae'r glust fewnol yn bennaf gyfrifol am ddarganfod sain a chydbwysedd. Mewn mamaliaid, mae'n cynnwys y labyrinth esgyrnog a'r ceudod gwag yn asgwrn arlais y benglog gyda'i system o rwydweithiau sy'n cynnwys y ddwy brif ran weithredol[1]:
- Y cochlea, sy'n cael ei ddefnyddio i glywed; gan drawsnewid patrymau pwysedd sŵn o'r glust allanol i ysgogiadau electrocemegol sy'n cael eu trosglwyddo i'r ymennydd trwy'r nerf clywedol.
- Y system festibwlar, sy'n cael ei ddefnyddio i gydbwyso'r corff
Strwythur
[golygu | golygu cod]Yn y cochlea, caiff tonnau sain eu trawsnewid yn ysgogiadau trydanol sy'n cael eu hanfon ymlaen i'r ymennydd. Yna mae'r ymennydd yn cyfieithu'r ysgogiadau mewn i synau yr ydym yn eu hadnabod ac yn eu deall.
Mae'r cochlea yn debyg i gragen falwen neu bibell wedi'i weindio sydd yn cael ei lenwi â hylif ac sy'n cael ei alw'n perilymff. Mae'n cynnwys dwy bilen sydd wedi'u lleoli yn agos i'w gilydd. Mae'r pilenni yn ffurfio math o wal i rannu'r cochlea. Er mwyn i'r hylif symud yn rhydd yn y cochlea o'r naill ochr i'r llall, mae gan y wal tyllau ynddo (yr helicotrema). Mae angen y tyllau i sicrhau bod y dirgryniadau o'r ffenestr hirgrwn yn cael eu trosglwyddo i holl hylif yn y cochlea.
Pan fydd yr hylif yn symud y tu mewn i'r cochlea, mae miloedd o ffibrau gwallt microsgopig y tu mewn i'r wal raniadol yn cael eu symud. Mae oddeutu 24,000 o'r ffibrau gwallt hyn wedi'u trefnu mewn pedwar rhes hir[2].
Mae'r nerf clywedol yn fwndel o ffibrau nerf sy'n cario gwybodaeth rhwng y cochlea a'r ymennydd. Swyddogaeth y nerf clywedol yw trosglwyddo signalau o'r glust fewnol i'r ymennydd.
Mae'r ffibrau gwallt yn y cochlea i gyd wedi'u cysylltu â'r nerf clywedol ac, yn dibynnu ar natur y symudiadau yn hylif y cochlea, mae ffibrau gwallt gwahanol yn cael eu symud.
Pan fydd y ffibrau gwallt yn symud, maent yn anfon signalau trydanol i'r nerf clywedol sy'n gysylltiedig â chanolfan glywedol yr ymennydd. Yn yr ymennydd, caiff yr ysgogiadau trydanol eu cyfieithu i synau gellid eu hadnabod a'u deall. O ganlyniad, mae'r ffibrau gwallt yn hanfodol i'r gallu i glywed. Pe bai'r ffibrau gwallt hyn yn cael eu niweidio, yna byddair gallu i glywed yn dirywio[2].
Y festibwlar - y mecanwaith cydbwysedd
[golygu | golygu cod]Y festibwlar yw organ cydbwysedd. Swyddogaeth y festibwlar yw cofrestru symudiadau'r corff, gan sicrhau ei fod yn gallu cadw ei gydbwysedd.
Mae'r festibwlar yn cynnwys tri darn siâp cylch, sydd wed eu cyfeirio mewn tri arwyneb gwahanol. Mae'r tri llwybr wedi'u llenwi â hylif sy'n symud yn unol â symudiadau'r corff. Yn ogystal â'r hylif, mae'r llwybrau hefyd yn cynnwys miloedd o ffibrau gwallt sy'n ymateb i symudiadau'r hylif, gan anfon ysgogiadau bychain i'r ymennydd. Yna mae'r ymennydd yn dadgodio'r ysgogiadau hyn ac yn eu defnyddio i helpu'r corff i gadw ei gydbwysedd[2].
Arwyddocâd clinigol
[golygu | golygu cod]Ymysg anhwylderau'r glust fewnol mae:
- Gall byddardod nerfol cynhenid bod yn bresennol cyn geni neu gael ei gaffael yn ystod neu ychydig ar ôl geni. Mae'n cael ei achosi gan ddiffyg ar y nerf clywedol yn y cochlea. Fel arfer, bydd y ddwy glust yn cael eu heffeithio i raddau tebyg, ac fel rheol mae nam ar y clyw yn ddifrifol, er gall y nam bod yn llai mewn rhai achosion.
- Gall heintiau firaol achosi graddau difrifol o golled clyw synhwyrol mewn un glust, neu yn y ddwy mewn pobl o unrhyw oedran. Firws clwy'r pennau yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o golli clyw difrifol mewn un glust. Mae'r firysau'r frech goch a'r ffliw yn achosion llai cyffredin[3].
- Does dim sicrwydd beth yn union sy', achosi clefyd Ménière ond mae'n cael ei gysylltu â phroblemau sy'n effeithio ar bwysedd yn nyfnderoedd y glust fewnol. Mae ei symptomau yn cynnwys[4]:
- y bendro
- ansadrwydd
- chwydu neu deimlo'n gyfoglyd
- tinitws
- nam ar y clyw
- Mae labyrinthitis yn haint yn y glust fewnol. Mae'n achosi i'r labyrinth i chwyddo, gan effeithio ar y clyw a'rh cydbwysedd[5].
- Cyfergyd neu drawma arall i'r pen
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Encyclopædia Britannica - Inner ear". Cyrchwyd 16 Chwefror 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Hera It - The inner ear Archifwyd 2017-09-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Chwefror 2018
- ↑ 3.0 3.1 Encyclopædia Britannica - ear disease: Inner ear adalwyd 16 Chwefror 2018
- ↑ NHS UK Ménière's disease adalwyd16 Chwefror 2018
- ↑ NHS UK Labyrinthitis adalwyd 16 Chwefror 2018