Y drefn gastiau yn India

Oddi ar Wicipedia
Llyfr 'Seventy-two Specimens of Castes in India', 1837

Hierarchaeth gaeth sydd yn berthnasol i Hindwiaid ar draws India yw'r drefn gastiau yn India, sydd yn pennu grwpiau cymdeithasol drwy etifeddiaeth ffordd o fyw, galwedigaeth, a statws cymdeithasol ar sail cysyniadau karma (gwaith) a dharma (dyletswydd). Mae gan y System Cast hanes sydd yn ymestyn yn ôl dros dair mil o flynyddoedd, yw un o’r ffurfiau hynaf yn y byd ar haeniad cymdeithasol.

Cydnabyddir Castiau gan y Manusmriti, testun cyfreithiol hynafol yr Hindŵaid, fel system gyfiawn o drefnu a rheoleiddio cymdeithas. Yn ôl trefn y varna, rhennir Hindŵaid yn bedwar prif ddosbarth: y Brahmin, y Kshatriya, y Vaishya, a’r Shudra. Mae rhai yn credu i'r drefn hon ddeillio o gorff y duw Brahma ei hun. Y Brahmin yw'r elît, athrawon a deallusion yn bennaf, a gredir iddynt ddeillio o ben Brahma. Yr ail ddosbarth yw milwyr ac arweinwyr y Kshatriya, a ddaw o'i freichiau dwyfol. Yna mae’r Vaishya, y dosbarth masnachol, a grewyd o gluniau'r duw, ac ar waelod yr hierarchaeth mae'r Shudra, o draed Brahma, sydd yn gyfrifol am wasanaeth caled a diraddiol. Rhennir y pedwar varna yn 3,000 o gastiau, neu jati, ac hyd at 25,000 o is-gastiau. Y tu allan i'r drefn hon i gyd - ac felly ar reng isaf yr hierarchaeth, yn wir - mae'r achhoots, a elwir hefyd yn Dalit neu anghyffyrddedigion.

Yn hanesyddol bu'r drefn gastiau yn hollbresennol yng nghefn gwlad India, ac yn gwarantu breintiau i'r castiau uchaf tra'r oedd y castiau darostyngedig yn dioddef gormes swyddogol neu led-swyddogol. Byddai'r castiau yn byw ar wahân fel rheol, a ni chaniatawyd allbriodas na rhannu bwyd a diod. Mae union ddatblygiadau'r drefn yn bwnc dadleuol yn hanesyddiaeth India: er iddi darddu o gymdeithas a diwylliant brodorol y wlad, mae’n debyg iddi gael ei chadarnhau a'i chyfundrefnu’n swyddogol dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth y Mughal a’r Ymerodraeth Brydeinig yn enwedig. Credir y bu hunaniaeth a statws cymdeithasol yn India yn hyblycach nag y mae ers y 18g, a bod mudoledd o un cast i'r llall yn bosib. O ddechrau'r 19g, cynhyrchwyd adroddiadau ac astudiaethau gan weision sifil ac ysgolheigion Prydeinig yn ymchwilio i natur y drefn gymdeithasol yn India, gan lunio'r ddamcaniaeth fodern o nodweddion a phrosesau'r gyfundrefn gastiau. Cynhaliwyd cyfrifiadau gwladol i gasglu gwybodaeth am boblogaeth India, gan gyflwyno'r arfer o ddynodi cast yn ffurfiol i bob unigolyn. Yng nghyfnod y Raj, daeth y cast yn brif nodwedd gymdeithasol y wlad, yn bwysicach i fywydau pob dydd yr Hindŵaid nac ethnigrwydd neu unrhyw gategori arall.

Yn sgil annibyniaeth India ym 1947, gwaharddwyd gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail cast gan y cyfansoddiad, ac ym 1950 cyflwynwyd cwotâu a mesurau eraill i gynnig cyfleoedd i'r Castiau a Llwythau Rhestredig, y rhai a fu dan yr anfantais fwyaf yn hanesyddol. Estynnwyd y cwotâu ym 1989 i'r Dosbarthiadau Annatblygedig Eraill (OBCau), sydd yn meddu rhengoedd y canol rhwng y castiau rhestredig a'r castiau elitaidd. Dirywiai pwysigrwydd y drefn gastiau o ganlyniad i dwf addysg seciwlar, trefoli, a moderneiddio yn India, yn enwedig yn y dinasoedd lle mae'n rhaid i wahanol gastiau fyw ochr yn ochr.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Debjani Ganguly, Caste, Colonialism and Counter-Modernity: Notes on a postcolonial hermeneutics of caste (Llundain: Routledge, 2005).
  • Dipankar Gupta (gol.), Caste in Question: Identity or Hierarchy? (Delhi Newydd: Sage, 2004).
  • Alexander Lee, From Hierarchy to Ethnicity: The Politics of Caste in Twentieth-Century India (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2020).