Pobloedd Germanaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y bobloedd Germanaidd)

Grŵp ethno-ieithyddol Indo-Ewropeaidd sy'n hanu o Ogledd Ewrop yw'r bobloedd Germanaidd. Nodir gan yr ieithoedd Germanaidd, a ddatblygodd o'r Broto-Germaneg yn ystod Oes yr Haearn, cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i'r ardal.[1]

Ymhlith y bobloedd Germanaidd fodern yn Ewrop mae'r Albanwyr Iseldirol (y Sgotiaid) a thrigolion Shetland ac Ynysoedd Erch, yr Almaenwyr, yr Awstriaid, y Daniaid, y Ffaroaid, y Ffiniaid Swedeg, y Ffleminiaid, y Ffrisiaid, yr Iseldirwyr, yr Islandwyr, y Liechtensteiniaid, y Lwcsembwrgiaid, y Norwyaid, Sacsoniaid Transylfania, y Saeson, y Swediaid, y Swisiaid Almaeneg, a'r Tyroliaid Almaeneg. Y tu allan i Ewrop, mae'r Affricaneriaid yn Ne Affrica a'r Amisch ym Mhensylfania yn genhedloedd Germanaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Germanic peoples. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am grŵp ethnig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato