Neidio i'r cynnwys

Y Wisg Sidan (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Y Wisg Sidan
Enghraifft o:cyfres ddrama gyfnod i deledu
Dyddiad cynharaf1994
GolygyddRichard Bradley
AwdurElena Puw Morgan addasiad Eigra Lewis Roberts
CyhoeddwrS4C
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1995
DarlunyddPauline Harrison (cynllunydd)
Cyfarwyddwr/wyrGareth Lloyd-Williams
Cwmni cynhyrchuFfilmiau Llifon
CyfansoddwrJohn E. R. Hardy
SinematograffyddDaf Hobson
Dynodwyr

Cyfres ddrama gyfnod Gymraeg i S4C yw Y Wisg Sidan gafodd ei chynhyrchu gan Ffilmiau Llifon ym 1995. Addasiad o nofel Elena Puw Morgan yw'r gyfres, a hynny o waith Eigra Lewis Roberts. Gareth Lloyd-Williams oedd cyfarwyddydd a Betsan Llwyd oedd yn portreadu'r prif gymeriad. Ymysg yr actorion nodedig eraill y mae Robin Griffith, Huw Garmon, Mari Rowland Hughes, John Ogwen ac Olwen Rees.[1] Enillodd y gyfres sawl gwobr BAFTA Cymru ym 1996 am y sgript orau [Eigra Lewis Roberts],[2] yr actores orau [Betsan Llwyd][3], a'r gwisgoedd gorau [Jilly Thornley].[4] Cafodd eraill eu henwebu ar gyfer y gwobrau am eu cyfraniad i'r gyfres sef Richard Bradley [golygydd ffilm][5], Pauline Harrison [cynllunydd][6], Gareth ac Iona Lloyd Williams [am y gyfres ddrama orau][7], John E. R. Hardy [cerddoriaeth][8], a Gareth Lloyd-Williams [cyfarwyddwr].[9]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]
Clawr argraffiad newydd o'r nofel gyda delwedd o'r gyfres ar ei chlawr
Golygfa'r ffair o'r gyfres

Addasiad o nofel Elena Puw Morgan a gyhoeddwyd ym 1939, yw'r stori, sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru rhwng 1885 a 1912.

Mae Mali Meredur yn byw adref gyda’i brawd crintachlyd Seimon, sy’n ei thrin yn wael. Nid yw’n talu cyflog iddi, ac mae ei dillad yn brin. Rhydd yntau allwedd i gist ddillad eu mam iddi, ac ynddo mae hi’n darganfod y wisg sidan “lliw’r gwin” - hen ffrog brydferth a roddwyd i’w mam, pan oedd hi’n gweini mewn plasdy cyfagos. Mae peth dirgelwch yn perthyn i’r ffrog ac “anlwc” yn ogystal. Gofynna Mali i Saro’r Wern i altro’r ffrog iddi, ac mae hithau yn adnabod y ffrog o dyddia pan oedd hitha’n gweini, ac yn ei rhybuddio i fod yn ofalus ohoni, gan mai anlwc sy'n gysylltiedig â hi.

Caiff Mali wahoddiad i ymweld â’r Ffair, a thra’n gwisgo’r ffrog sidan, caiff ei hudo gan Timothy Huws, "gŵr y Plas", sy'n ei chamdywysu a'i chusanu, gan gynnig gwaith iddi fel morwyn yn y plas. Derbynia Mali’r swydd, yn y gobaith bod y serch a deimlai at Timothy am droi'n gariad, ond wedi cyrraedd Plas-yr-Allt, daw siom o ddeall ei fod eisoes yn briod, gydag Ann.

"Ond nid geneth gyffredin mo Mali", eglura Eigra Lewis Roberts, "Mae'n llwyddo i gelu'i breuddwydion a'i dyheadau, dro ar ôl tro, oherwydd ei phryder a'i gofal am eraill. Er pob siom ac anlwc, caiff hithau ei munudau cofiadwy; dim ond briwsion, mae'n wir, ond digon i'w chynnal".[10]

Tra yn y plas, ar gyflog isel, mae serch Timothy yn ail danio a cymer fantais o Mali, nes peri iddi feichiogi. Ceisia Mali gadw tad y babi yn gyfrinach, ond mae'r gweision eraill yn gwybod y gwir. Caiff Mali ei throi ymaith o'r plas, a genir y ferch fach gyda chymorth Saro'r Wern. Gwnaent gynllun i 'adael y baban ar stepen drws cwpl cyfoethog, sydd wedi colli sawl plentyn, er mwyn rhoi'r gobaith gorau iddi gael ei magu'n dda.

Dychwela Mali i weithio yn y plas, ac wedi marwolaeth ei brawd Seimon, Ann Huws a Saro'r Wern, mae gobeithion Mali hefyd yn cael eu gwireddu. Er i Timothy ail-briodi â Lili, Mali sy'n gorfod ei nyrsio hyd ei farwolaeth, wedi iddo golli popeth. Gwnaiff hynny ym mwthyn Saro, sy'n eiddo iddi hithau, bellach. Llosga'r wisg sidan ar y tân, ac fel mae Eigra'n nodi yn ei hunangofiant, "mae'r diweddglo cynnil, tawel, yn cynnwys un o'r brawddegau mwyaf eironig a geir mewn unrhyw nofel:

"Plygodd Timothy Huws ymlaen, gan rythu i'r fflamau. 'Sidan lliw'r gwin', meddai, a'i wyneb yn goleuo. 'Gan bwy y gwelais i ffrog fel yna? Gan Lili mae'n siŵr'."[10]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Roedd dau symbyliad i Eigra Lewis Roberts fynd ati i addasu'r nofel ar gyfer y teledu, nid yn unig "fod y stori'n un gref a'r cymeriadau'n rhai y gellid uniaethu â nhw" ond bod "dwy 'olygfa arbennig" o fewn y nofel.[10] Yr 'olygfa gyntaf a arhosodd yn ei meddwl oedd gweld Mali "yn ei gwisg sidan liw'r gwin, ond heb ei chlocsiau a'i hosanau trwsgwl, yn sefyll o flaen y drych mawr yn ystafell wely Plas-yr Allt a breichiau'r meistr ifanc yn cau amdani".[10] Yr ail-olygfa oedd pan fo Mali "wedi gorfod gwylio Timothy Huws, y meistr ifanc y rhoesai ei chalon iddo ddiwrnod y ffair, yn dod â Lili, ei wraig newydd, i'r Plas", blynyddoedd wedi gorfod "talu'n ddrud" am wireddu ei breuddwyd.[10]

Nododd Eigra fod cryn dipyn o waith addasu ar y nofel gan ei bod "yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a'r presennol ac yn adrodd sawl stori o fewn stori".[10]

Disgrifiodd Jon Gower y gyfres fel "cywaith penigamp", gan sôn yn benodol am y golygefydd ar y traeth yn yr ail-bennod oedd "fel peintiadau olew".[10]

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
  • Cynllunydd - Pauline Harrison
  • Gwisgoedd - Jilly Thornley
  • Colur - Meinir Jones Lewis
  • Sain - Peter Margrave

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Wisg Sidan, cyfres Ffilmiau Llifon ar S4C 1994
  2. "Screenwriter". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  3. "Actress". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  4. "Costume Design". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  5. "Editing". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  6. "Design". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  7. "Drama Series". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  8. "Original Music". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  9. "Director". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-16.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 10.6 Roberts, Eigra Lewis (2021). Eigra - Hogan fach o'r Blaena. Bwthyn. ISBN 9781913996116.