Y Wialen Ddu

Oddi ar Wicipedia
Sarah Clarke yng ngwisg y Wialen Ddu (2019).

Swydd yn Senedd y Deyrnas Unedig, a chyn hynny Senedd Prydain Fawr a Senedd Teyrnas Lloegr ers 1552, yw y Wialen Ddu (Saesneg: Black Rod). Dyma’r prif dywysydd yn adran yr Arglwydd Siambrlen yn y Gwasanaeth Brenhinol, ac hefyd yn un o swyddogion Tŷ'r Arglwyddi. Un o’i brif ddyletswyddau seremonïol ydy’r negesydd swyddogol o Dŷ’r Arglwyddi i Dŷ’r Cyffredin. Yn ôl y traddodiad a arferir ers 1643, caeir y drws i Dŷ’r Cyffredin wrth iddo gyrraedd i alw ar yr Aelodau Seneddol i ymgynnull yn Nhŷ’r Arglwyddi i wrando ar araith y teyrn. Er mwyn cael mynd i mewn i’r siambr, mae’n rhaid iddo gnocio ei wialen eboni teirgwaith ar y drws. Mae’r traddodiad hwn yn cynrychioli annibyniaeth Tŷ’r Cyffredin ers Rhyfeloedd Cartref Lloegr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Black Rod. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Hydref 2020.