Neidio i'r cynnwys

Y Werin Wydr

Oddi ar Wicipedia
Y Werin Wydr
AwdurAnnes Gruffydd
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreDramâu Cymraeg
Dyddiad y perff. 1af1992

Trosiad newydd Cymraeg gan Annes Gruffydd o The Glass Menagerie Tennessee Williams yw Y Werin Wydr. Llwyfanwyd y cyfieithiad am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1992.[1]

Nododd y llenor Hazel Walford Davies yn Barn (Medi 1992) bod "trosiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie, yn un arbennig o ystwyth ac yn dal hiwmor ac ysbryd y gwreiddiol. [...] Heb amheuaeth, cyfieithiad i Wynedd yw hwn, ac i Sir Fôn yn arbennig. Yr hyn a ddiflannodd wrth gwrs yn y cynhyrchiad oedd grym acen taleithiau Missouri a Mississippi. Mae cymaint o’r hyn sydd gan Williams i’w gyfleu yn y ddrama ynghlwm wrth acen araf, hiraethus y De."[2]

Ni chafodd y trosiad hwn ei gyhoeddi hyd yma. Mae cyfieithiad Emyr Edwards o'r un ddrama wedi'i gyhoeddi dan y teitl Pethe Brau.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Tom
  • Amanda - mam Tom
  • Laura - chwaer Tom
  • Jim - y gŵr galw

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Cafodd y trosiad yma ei lwyfanu gan Gwmni Theatr Gwynedd yng Ngwanwyn 1992. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cast:

Cael ei phlesio'n fawr gan y cynhyrchiad wnaeth y llenor Hazel Walford Davies yn ei hadolygiad i Barn: "Gan mai drama atgof yw hi, un o’r prif beryglon wrth ei pherfformio yw gorbwysleisio’r elfen sentimental sydd ynghlwm wrth y fath genre. Er mwyn osgoi hyn rhaid wrth effeithiau technegol medrus a set gelfydd. [...] Rhan allweddol o lwyddiant y cynhyrchiad oedd gwaith sain, goleuo a set y cynllunydd John Jenkins. Roedd y llwyfan gwydr gyda’i ymylon toredig, y muriau brics uchel a’r hysbysebion Americanaidd ymosodol a grogai o’r nenfwd yn adlewyrchu byd mewnol, briwedig y teulu a bygythiad allanol, hyderus dinasoedd America. Drwy gydol y cynhyrchiad roedd y goleuo a’r effeithiau sain yn pwysleisio’r gwahaniaeth dybryd rhwng hyfdra dinas y fflachiadau neon a thywyllwch ingol bywydau Tom, ei fam Amanda a’i chwaer Laura, yn eu cartref yn un o slymiau hagr St Louis, Missouri."[2]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Werin Wydr 1992.
  2. 2.0 2.1 "DISODLI'R THEATR REALISTIG gan Hazel walford Davies; atodiau theatr bARN cyfrol 355/356 Awst / Medi 1992". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.