Y Tywysog Harry, Dug Sussex
| Y Tywysog Harry, Dug Sussex | |
|---|---|
| Ffugenw | Henry Wales |
| Ganwyd | Prince Henry Charles Albert David of Wales 15 Medi 1984 Ysbyty'r Santes Fair |
| Bedyddiwyd | 21 Rhagfyr 1984 |
| Man preswyl | Palas Kensington, Nottingham Cottage, Frogmore Cottage, Toronto, Montecito |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | peilot hofrennydd, swyddog milwrol, noddwr y celfyddydau, chwaraewr polo, dyngarwr |
| Swydd | Ymgynghorydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Finding Freedom, Spare |
| Taldra | 72.5 modfedd |
| Tad | Charles III |
| Mam | Diana, Tywysoges Cymru |
| Priod | Meghan Markle |
| Partner | Chelsy Davy, Cressida Bonas |
| Plant | Archie o Sussex, Lilibet Mountbatten-Windsor |
| Perthnasau | Laura Lopes, Tom Parker Bowles |
| Llinach | Tŷ Windsor |
| Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Urdd Isabel la Católica, Medal am Wasanaethu yn Afghanistan, aelod anrhydeddus, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Medal Coroni’r Brenin Charles III, Medal Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II o Loegr |
| Gwefan | https://sussex.com |
| llofnod | |
Ail fab y Tywysog Siarl a Diana yw Henry Charles Albert David Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog Harry, Dug Sussex (ganwyd 15 Medi 1984). Mae'n frawd i'r Tywysog William. Priododd yr actores Meghan Markle ym Mai 2018.[1]
Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Lloegr a treuliodd gyfnodau o'i flwyddyn bwlch yn Awstralia a Lesotho. Yna cafodd hyfforddiant swyddog yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Fe'i benodwyd yn gornet (sef ail is-gapten) yn y Blues a Royals, gan wasanaethau dros dro gyda'i frawd Y Tywysog William, a cwblhaodd ei hyfforddiant fel arweinydd milwyr. Yn 2007-2008 gwasanaethodd am dros ddeg wythnos yn Helmand, Affganistan, ond tynnodd allan ar ôl i gylchgrawn Awstralaidd ddatgelu ei bresenoldeb yna. Dychwelodd i Affganistan am gyfnod o 20 wythnos yn 2012-13 gyda Chorfflu Awyr y Fyddin. Gadawodd y fyddin yn Mehefin 2015.
Helyntion
[golygu | golygu cod]Ffrae'r wisg ffansi Natsïaidd
[golygu | golygu cod]
Yn Ionawr 2005, mewn parti gwisg ffansi gyda'r thema "Trefedigaethwyr a Brodorion", gwisgodd Harry band-braich swastika ac iwnifform Natsïaidd, gan godi ymateb beirniadol iawn[2] ac achosi cryn embaras i'w deulu. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd cyhoeddiad ar ei ran yn ymddiheuro am y weithred, ond roedd ei amharodrwydd i ymddiheuro'n bersonol yn cythruddo nifer o grwpiau gwrth-hiliaeth ac unigolion. Cafodd ei feirniadu am wneud sbort ar ben mater difrifol a brifo teimladau teuluoedd pobl a ddioddfefasant dan y Natsïaid. Ond bu rhai o gefnogwyr y teulu brenhinol yn barod i esgusodi'r tywysog[3]
Ffrae saethu'r adar prin
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2007, wynebodd Harry gyhuddiadau o saethu dau aderyn prin tra yn Sandringham[4]. Bu dau gerddwr a warden gwarchodfa natur cyfagos yn dystion iddynt weld dau foda tinwyn yn cael eu "blastio o'r awyr" ar 24 Hydref, ond oherwydd y coed nid oeddynt yn medru gweld pwy yn union a'u saethodd. Mae bodau tinwyn ymhlith yr adar prinaf yng ngwledydd Prydain; dim ond 20 sy'n byw yn Lloegr felly collwyd 10% o stoc bridio'r adar yn y wlad honno. Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod nifer o lygad-dystion mai Harry a'i ffrind a fu'n gyfrifol am y saethu a'u bod yn "gredadwy". Fodd bynnag, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â ffurfio cyhuddiadau, penderfyniad sydd wedi cythruddo naturiaethwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tywysog Harry i briodi Meghan Markle , Golwg360, 27 Tachwedd 2017. Cyrchwyd ar 8 Rhagfyr 2017.
- ↑ Harri yn ymddiheuro'n gyhoeddus am wisgo i fyny fel Natsi BBC News, 13 Ionawr, 2005
- ↑ Harry public apology 'not needed' BBC News, 14 Ionawr, 2005
- ↑ "Prince Harry quizzed by police about shooting of rare birds" 31 Hydref 2007 The Guardian