Y Tŷ Gwledda
Gwedd
![]() | |
Math | tŷ gwledda, adeilad amgueddfa, theatr ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1622 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Palas Whitehall ![]() |
Sir | Dinas Westminster ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5046°N 0.1259°W ![]() |
Cod OS | TQ3016680069 ![]() |
Cod post | SW1A 2ER ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Paladaidd ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Adeilad a leolir yn Whitehall yn Ninas Westminster, Llundain, yw'r Tŷ Gwledda (Saesneg: The Banqueting House). Dyma'r unig ran bwysig o Balas Whitehall a oroesodd y tân trychinebus yno yn 1698. Cwblhawyd yr adeilad yn 1622. Y pensaer oedd Inigo Jones. Hwn oedd yr adeilad cyntaf i ddefnyddio yr arddull Paladaidd a fyddai'n trawsnewid pensaernïaeth yn Lloegr drwy gydol y ganrif nesaf.
Cafodd Charles I, brenin Lloegr a'r Alban, eu dienyddio’n gyhoeddus o flaen y Tŷ Gwledda. Ar 30 Ionawr 1649 dringodd trwy ffenestr y tŷ i'r sgaffald a godwyd o'i flaen, lle torrwyd ei ben.
-
Darlun pin ac inc o'r Tŷ Gwledda gan Thomas Forster (1672–1722)
-
Dienyddio Charles I o flaen y Tŷ Gwledda yn 1649
-
Tu mewn i'r adeilad
-
Y nenfwd, gydag Apotheosis Iago I gan Peter Paul Rubens yn y panel canolog
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Banqueting House, Whitehall SW1", Historic England
- "The Banqueting House", British History Online