Y Swejan a'r Smacyrs
Gwedd
| Enghraifft o: | sioe glybiau Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1997 |
| Awdur | Twm Miall a Bryn Fôn |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws |
| Dynodwyr | |
Un o linach sioeau clybiau llwyddiannus Theatr Bara Caws yn y 1990au ydi Y Swejan a'r Smacyrs o waith Twm Miall a Bryn Fôn. Cytunodd Miall i gyfansoddi'r sgript ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 [y bumed sioe glybiau ganddo i'r cwmni], ar yr amod bod Bryn Fôn yn ei gynorthwyo.[1] Cyfansoddodd Miall y sioeau Deial 999, Tweileit Zôn, Rhosyn a Rhych ac Un Bach Arall cyn hynny.
Erbyn 1997, teimlai Miall fod yr "hinsawdd wleidyddol yng Nghymru" yn gwneud hi'n fwy anodd i gyfansoddi sioeau o'r math yma, nac yr oedd hi ar ddechrau'r 1990au. Gyda "llai o achosion ymfflamychol" a "llai o gocynnau hitio", ychwanegodd.[1]