Y Stiwt, Rhosllannerchrugog

Oddi ar Wicipedia
Y Stiwt
Maththeatr, sinema, canolfan gymunedol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
SirRhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr176 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0114°N 3.05592°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Theatr y Stiwt

Agorwyd Y Stiwt, Rhosllannerchrugog ym 1926.[1] Rhwng 1924 a 1926 penderfynodd Sefydliad Lles y Glowyr fod ceiniog yn cael ei chodi am bob tunnell o lo oedd yn cael ei godi o lofeydd lleol, a chodwyd bron i £18,000 ar gyfer codi'r adeilad. Ar ôl hynny roedd cost cynnal a chadw'r Stwit yn dod drwy dynnu dwy geiniog yr wythnos o gyflogau'r glowyr.[2]

Hyd at 1977 roedd iddo sawl pwrpas gwahanol: sinema, theatr, neuadd gyngerdd, canolfan snwcer, ddawnsio ac yn glwb cymdeithasol.[3] Caewyd y Stiwt ym 1977 a phenderfynodd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam ddymwchel yr adeilad ym 1985, ond cafwyd ymgyrch i'w achub ac ailagorwyd y Stiwt ar ôl ymdrechion lleol a grant o £2.1 miliwn gan Gronfa Etifeddiaeth y Loteri ym 1999.[2]

Mae'n adeilad rhestredig (Gradd II*).

Jamie Smith's Mabon yn y Stiwt
Jamie Smith's Mabon yn y Stiwt 
Y Stiwt gyda'r nos
Y Stiwt gyda'r nos 
Band Daniel Lloyd yn y Stiwt
Band Daniel Lloyd yn y Stiwt 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan northeastwales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2016-02-05.
  2. 2.0 2.1 Gwefan BBC Cymru fyw
  3. lemonrock.com;[dolen marw] adalwyd 7 Chwefror 2016

Dolen allanol[golygu | golygu cod]