Neidio i'r cynnwys

Y Stafell Ddirgel (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Y Stafell Ddirgel
Enghraifft o:cyfres ddrama gyfnod i deledu
Dyddiad cynharaf2001
GolygyddRichard Bradley
CyhoeddwrS4C
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg
Cysylltir gydaY Stafell Ddirgel
DarlunyddPauline Harrison
Cyfarwyddwr/wyrGareth Lloyd-Williams
Cynhyrchydd/wyrPeter Edwards, Dic Jones, Iona Lloyd Williams, Gareth Lloyd-Williams
Cwmni cynhyrchuFfilmiau Llifon / HTV
CyfansoddwrMichal Lorenc
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
SinematograffyddRichard Wyn Huws
Dynodwyr

Cyfres ddrama gyfnod i deledu a gynhyrchwyd gan HTV a Ffilmiau Llifon yn 2001 yw Y Stafell Ddirgel. Addasiad 6 phennod gan Manon Eames, o'r nofel o'r un enw am y Crynwyr gan yr awdures Marion Eames, yw'r gyfres. Dyma stori rhai o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Cymru, megis "Rowland Ellis", Sgweiar Brynmawr a’i wraig brydferth ond hunanol, "Meg", ac yn gefndir iddynt, cyfnod cythryblus y Crynwyr yn ardal Dolgellau gan gychwyn ym 1672.[1]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae’n amser y ffair a blwyddyn ers i Rowland a Meg briodi [1672] wrth iddyn nhw ddisgwyl genedigaeth eu plentyn cyntaf. Ond mae’r sect grefyddol y Crynwyr yn y dref yn cael eu herlid yn ddidrugaredd gan yr ustusiaid a Sgweiar didostur yr Hengwrt, Hywel Vaughan. Ac wrth i Rowland ddyheu am oddefgarwch, a Meg am wefusau dyn arall, heuir yr hadau am frad a thwyll ym Mrynmawr. O ganlyniad i fradwriaeth Meg, mae perthynas Rowland gyda’i was diymhongar, Ellis Puw, a’r Crynwyr lleol yn dyfnhau wrth iddo fynychu eu gwasanaethau heb yn wybod i neb. Mae Meg hefyd yn chwilio am gysur yn yr Hengwrt ym mreichiau Hywel Vaughan. Ond mae llygaid y gwas, Huw Morris, yn gwylio’r cyfan. Poeni am ddyfodol ei gyfeillion newydd a wna Rowland wrth i Hywel a’r rheithor newydd gynllwynio i anwybyddu’r Ddeddf Oddefgarwch ac erlid y Crynwyr i’w marwolaeth.

Sylweddola Meg ei bod wedi gwneud camgymeriad difrifol trwy roi ei hiechyd hi a’r babi yn y fantol, a does dim modd cuddio’r gwir bellach. Mae absenoldeb Rowland o’r eglwys yn tynnu sylw’r awdurdodau ac mae Hywel Vaughan yn ei rybuddio wrth i’r Ddeddf Oddefgarwch gael ei dileu. Gyda thywallt gwaed yn yr eglwys a merched gorffwyll northlymyn yn y dref, mae Dolgellau’n ferw wrth i’r Crynwyr baratoi am ryfel. Ac wrth i Meg gynllunio ei dihangfa, mae Huw Morris yn penderfynu elwa ar ei hofnau.

Daw profedigaeth i deulu Brynmawr a rhaid i Rowland ddewis rhwng ei gred a’i deulu.  Dal i ddioddef a wna Robert Owen yn y carchar ac mae’r Crynwyr yn dewis ei olynydd.  Ond mae’n rhaid i Rowland ddechrau talu wrth iddo ddioddef ymosodiadau gan y werin. Mae’r berthynas rhwng Rowland a Marged yn dyfnhau ond dyheu am ei gariad a wna Marged, nid am ei barch. Goddefa Dorcas y gadair foddi ac mae’r rhwyd yn cau wrth i’r awdurdodau garcharu Ellis Puw. Mae Rowland yn gorfod brwydro â'i ddicter yn sgil llofruddiaeth Dorcas.

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
  • Cynllunydd - Pauline Harrison
  • Colur - Magi Vaughan
  • Gwisgoedd - Jilly Thornley
  • Sain - Tim Walker

Ffilmiwyd y rhan helaeth o'r gyfres ar ystad Y Faenol, ger Y Felinheli.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Cyfres Y Stafell Ddirgel S4C Ffilmiau Llifon / HTV