Y Sgism Fawr (1378–1417)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Map yn dangos cefnogaeth yn Ewrop dros Babaeth Avignon (coch) a Phabaeth Rhufain (glas) yn ystod y Sgism Fawr, hyd at Gyngor Pisa yn 1409.

Hollt yn yr Eglwys Gatholig yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar oedd y Sgism Fawr (1378–1417). Wedi i sawl pab deyrnasu o Avignon yn y cyfnod 1309–77, yr hyn a elwir Pabaeth Avignon, dychwelodd y Babaeth i Rufain dan Grigor XI. Bu farw Grigor yn 1378 ac etholwyd Urbanus VI, ac aeth ati i ymateb i lygredigaeth eglwysig. Ymgynullodd criw o gardinaliaid anfodlon yn Agnani i ethol pab arall, Clement VII, gan sbarduno'r sgism. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall. Olynwyd Urban VI yn Rhufain gan Boniffas IX (1389– 1404), Innocentius VII (1404–1406), a Grigor XII (1406–1415), a olynwyd Clement VII yn Avignon gan Bened XIII (1394–1417).

Methiant a fu Cyngor Pisa yn 1409 i ddod â diwedd i'r sgism. Yno, etholwyd pab arall, Alecsander V, na chafodd ei gydnabod gan Babaeth Rhufain na chan Babaeth Avignon. Galwyd Cyngor Konstanz yn 1414 i ddatrys yr anghydfod. Penderfynodd y cyngor ddiorseddu'r Pab Grigor XII a'r Gwrth-Bab Ioan XXIII ac etholwyd y Pab Martin V i aduno'r Eglwys Gatholig â'i phencadlys yn Rhufain. Daeth y sgism i ben yn 1417.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), t. 146.