Y Sefydliad Arforol Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Baner y Sefydliad Arforol Rhyngwlaol

Asiantaeth y Cenhedloedd Unedig yw'r Sefydliad Arforol Rhyngwladol (IMO) sy'n gyfrifol am gytundebau rhyngwladol ar ddiogelwch morwrol, sicrhau tegwch ym masnach ryngwladol, a lleihau llygredd y môr.

Sefydlwyd y Sefydliad Ymgynghorol Arforol Rhynglywodraethol (IMCO) ym 1948, â'i bencadlys yn Llundain. Newidiodd ei enw i'r Sefydliad Arforol Rhyngwladol ym 1982.

Ysgrifennydd Cyffredinol yr IMO ers 2016 yw Kitack Lim, cyn-forwr o Dde Corea ac arbenigwr ar ddiogelwch morwrol.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]