Neidio i'r cynnwys

Y Rhyfel Deuddeng Niwrnod

Oddi ar Wicipedia
Y Rhyfel Deuddeng Niwrnod
Enghraifft o:rhyfel Edit this on Wikidata
DyddiadMehefin 2025 Edit this on Wikidata
Rhan oArgyfwng y Dwyrain Canol (2023-presennol), Iran–Israel conflict Edit this on Wikidata
Dechreuwyd13 Mehefin 2025 Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Mehefin 2025 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOctober 2024 Israeli strikes on Iran Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran Edit this on Wikidata
LleoliadY Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025, Operation True Promise III, 2025 United States strikes on Iranian nuclear sites, Iranian strikes on Al Udeid Air Base Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran, Israel Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthdaro arfog rhwng Iran ac Israel oedd y Rhyfel Deuddeng Niwrnod a barodd o 13 i 24 Mehefin 2025. Dechreuodd pan fomiodd Israel gyfleusterau milwrol a niwclear yn Iran mewn ymosodiad annisgwyl[1][2] o'r enw Ymgyrch Codi'r Llew, gan dargedu a lladd arweinwyr milwrol, gwyddonwyr niwclear[3] a gwleidyddion,[4][5][6] lladd sifiliaid,[7] a difrodi neu ddinistrio amddiffynfeydd awyr.[8] Ymatebodd Iran drwy lansio dros 550 o daflegrau balistig a mwy na 1,000 o ddronau ffrwydrol,[9] gan daro aneddiadau'r boblogaeth sifil,[10] un ysbyty[11] ac o leiaf ddeuddeg safle milwrol, ynni a llywodraethol. Rhyng-gipiodd Unol Daleithiau America ymosodiadau Iran, a bomiodd dri safle niwclear yn Iran ar 22 Mehefin.[12] Ymatebodd Iran drwy danio taflegrau at ganolfan filwrol yr Unol Daleithiau yng Nghatar. Ar 24 Mehefin, cytunodd Israel ac Iran ar gadoediad dan bwysau’r Unol Daleithiau.[13][14]

Rhagflaenwyd y rhyfel hwn gan ryfel trwy ddirprwy rhwng Iran ac Israel a barodd ers 1985. Mae arweinwyr Iran wedi galw am ddinistrio Israel, ac wedi arfogi Hamas yn Llain Gaza ac Hezbollah yn Libanus. Yn ogystal, mae rhaglen niwclear Iran wedi peri pryder rhyngwladol ers dros ddeng mlynedd, ac mae Israel yn ei hystyried yn fygythiad i'w bodolaeth. Yn 2015, o dan y Cyd-Gynllun Gweithredu Cynhwysfawr (JCPOA), cytunodd chwe gwlad i godi'r sancsiynau economaidd ar Iran, ar yr amod bod Iran yn oedi ei rhaglen niwclear.[15][16] Fodd bynnag, yn 2018, gwnaeth Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, benderfyniad unochrog i dynnu ei wlad yn ôl o'r cytundeb. Dechreuodd Iran gronni wraniwm wedi'i gyfoethogi[15][17][18] ac atal monitro gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) i raddau helaeth.[15][19] Y diwnod cyn i Israel ymosod, cyhoeddodd yr IAEA fod Iran yn methu cydymffurfio â'i rhwymedigaethau niwclear mewn penderfyniad a gyflwynwyd gan yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, a'r Almaen.[20][21] Yn dilyn ymosodiadau 7 Hydref 2023, aeth Hamas ac Hezbollah ill dau i wrthdaro agored ag Israel. Yn Ebrill 2024, bomiodd Israel gonswliaeth Iran yn Damascus, prifddinas Syria, gan ladd swyddogion milwrol Iran uchel eu statws.[22][23] Parhaodd y gwrthdaro uniongyrchol yn Ebrill ac eto yn Hydref 2024.

Lladdodd ymosodiadau Israel, a oedd yn ôl adroddiadau'n cynnwys cyrchluoedd ac asiantau Mossad yn Iran, nifer o arweinwyr milwrol Iran, arweinwyr Corfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC), ac o leiaf 10 o brif wyddonwyr niwclear y wlad.[3] Yn ystod y rhyfel, rhwystrodd llywodraeth Iran fynediad i'r rhyngrwyd.[24] Difrodwyd cyfleusterau niwclear yn Natanz, Isfahan a Fordow gan gyrchoedd awyr Israel a'r Unol Daleithiau,[25][26] a chafodd rhwydwaith niwclear Iran ei ddifrodi'n helaeth.[27][28][29] Ataliodd Iran ei chydweithrediad â'r IAEA, gan honni bod yr asiantaeth wedi trosglwyddo gwybodaeth am gyfleusterau niwclear a gwyddonwyr Iran i Israel.[30] Amcangyfrifir bod cyfanswm y marwolaethau yn Iran rhwng 1,060[31] a 1,190;[7] anafwyd miloedd,[7] dadleolwyd degau o filoedd,[32] a gorchmynnodd y llywodraeth rhwystrau ar y rhyngrwyd.[24] Tarodd Israel ysbyty[33] ac adeiladau uchel, gan gynnwys fflatiau.[34] Tarodd taflegrau Iran safleoedd milwrol a llywodraethol, fflatiau, canolfan ymchwil ac ysbyty yn Israel. O ganlyniad i sensoriaeth yn Israel, mae maint y difrod yn y wlad honno yn ansicr.[35][36]

Mynegodd y Cenhedloedd Unedig a'r mwyafrif o wledydd bryder ynghylch cyrchoedd Israel, a galwasant am ateb diplomyddol.[37][38] Condemniwyd yr ymosodiadau gan lawer o wledydd, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r byd Mwslimaidd ac Arabaidd, megis yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Pacistan, a Thwrci. Condemniwyd ymosodiadau Israel hefyd gan lywodraethau Armenia, Brasil, Ciwba, De Affrica, Japan, a Rwsia. Barnodd Comisiwn Rhyngwladol y Cyfreithegwyr ac ysgolheigion cyfreithiol eraill fod ymosodiadau Israel yn torri'r gyfraith ryngwladol.[39][40][41] Er gwaethaf, datganodd yr Almaen,[42][43] yr Ariannin,[44] yr Unol Daleithiau,[45] ac Wcráin[46] fod yr ymosodiadau ar Iran yn gyfiawn er mwyn atal amlhau niwclear, ac y dylai Iran gytuno'n brydlon i gytundeb niwclear.[47]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Michael R. Gordon, "In Twist, U.S. Diplomacy Served as Cover for Israeli Surprise Attack", The Wall Street Journal (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Mehefin 2025.
  2. (Saesneg) Lana Lam, Sofia Ferreira Santos, Jaroslav Lukiv, a Nathan Williams, "Israel-Iran: How did latest conflict start and where could it lead?", BBC (19 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mehefin 2025.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Najmeh Bozorgmehr a Max de Haldevang, "The Iranian generals and scientists killed by Israel’s offensive", Financial Times (18 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mehefin 2025.
  4. (Saesneg) "Iranian president lightly wounded while escaping Israeli attack", Al Jazeera (13 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  5. (Saesneg) Francesca Regalado, Euan Ward, Farnaz Fassihi, Samuel Granados, a Lynsey Chutel, "These Are Iranian Generals and Scientists Killed by Israel", The New York Times (3 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Gorffennaf 2025.
  6. (Saesneg) Ross Adkin, Tamar Michaelis, a Nadeen Ebrahim, "Israeli strikes kill some of Iran’s most powerful men, including military and nuclear leaders", CNN (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mehefin 2025.
  7. 7.0 7.1 7.2 (Saesneg) "Twelve Days Under Fire: A Comprehensive Report on the Iran-Israel War", HRANA (28 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Ionawr 2026.
  8. (Saesneg) "Report: Mossad carried out covert sabotage operations against Iranian air defenses, long-range missiles", The Times of Israel (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2025.
  9. (Saesneg) Jake Epstein, "How Israel used Iran's massive attacks to enhance its top ballistic missile shield", Business Insider (26 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Mehefin 2026.
  10. (Saesneg) Michael Rios, Nechirvan Mando, Catherine Nicholls, Eugenia Yosef, a Dana Karni, "Iran launches barrage of missiles at Israel following attack", CNN (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  11. (Saesneg) "Iranian missiles hit hospital and wound over 200. Israel threatens Iran's top leader", PBS (19 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  12. (Saesneg) "Trump Claims Success After Bombing Key Iran Nuclear Sites", The New York Times (23 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mehefin 2025.
  13. (Saesneg) Parisa Hafezi, Samia Nakhoul, ac Andrew Mills, "Iran sought US pressure on Israel for ceasefire via Gulf states, sources say", Reuters (16 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mehefin 2025.
  14. (Saesneg) Aamer Madhani a Josh Boak, "A whirlwind 48 hours: How Trump’s Israel-Iran ceasefire agreement came together", Associated Press (25 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Mehefin 2025.
  15. 15.0 15.1 15.2 (Saesneg) Mostafa Salem, Helen Regan, a Lou Robinson, "Everything you need to know about Iran’s nuclear program", CNN (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  16. (Saesneg) Meredith Deliso, "What was in the Iran nuclear deal and why did Trump withdraw the US from it?", ABC News (22 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  17. (Saesneg) Daniel Byman, "What to Know About the Israeli Strike on Iran", CSIS (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Gorffennaf 2025.
  18. (Saesneg) Emma Burrows a Stephanie Liechtenstein, "Israeli strikes on Iran’s nuclear program are sweeping but can they decimate it?", Associated Press (14 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  19. (Saesneg) "[Israel strikes Iran. What happens next?]", Brookings Institution (18 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  20. (Saesneg) Francois Murphy, "IAEA board declares Iran in breach of non-proliferation obligations", Reuters (12 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Mehefin 2025.
  21. (Saesneg) Najmeh Bozorgmehr, "Iran’s parliament votes to halt co-operation with nuclear watchdog", Financial Times (25 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Mehefin 2025.
  22. (Saesneg) y Ronen Bergman, Farnaz Fassihi, Eric Schmitt, Adam Entous, a Richard Pérez-Peña, "Miscalculation Led to Escalation in Clash Between Israel and Iran", The New York Times (17 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Mehefin 2025.
  23. (Saesneg) Jeremy Bowen a David Gritten, "Iran accuses Israel of killing generals in Syria strike", BBC (1 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
  24. 24.0 24.1 (Saesneg) Deepa Parent "‘It’s like being walled in’: young Iranians try to break through internet blackout", The Guardian (25 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Mehefin 2025.
  25. (Saesneg) Paul Brown a Shayan Sardarizadeh, "Satellite imagery reveals damage to key Iran nuclear sites", BBC (15 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Mehefin 2025.
  26. (Saesneg) Rob Picheta, "Israel attacked three key Iranian nuclear facilities. Did it strike a decisive blow?", CNN (14 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mehefin 2025.
  27. (Saesneg) "US bombing "seriously damaged" Iran's Fordow nuclear site, FM says", Reuters (2 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Gorffennaf 2025.
  28. (Saesneg) David Albright a Spencer Faragasso, "Post-Attack Assessment of the First 12 Days of Israeli and U.S. Strikes on Iranian Nuclear Facilities", Institute for Science and International Security (24 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Gorffennaf 2025.
  29. (Saesneg) David E. Sanger, "Some of Iran’s Enriched Uranium Survived Attacks, Israeli Official Says", The New York Times (10 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Gorffennaf 2025.
  30. (Saesneg) Erika Solomon a Sanam Mahoozi, "Iran Suspends Cooperation With U.N. Nuclear Watchdog", The New York Times (2 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Gorffennaf 2025.
  31. (Saesneg) "Iran’s government says at least 1,060 people were killed in the war with Israel", Associated Press (8 Gorffennaf 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mawrth 2026.
  32. (Saesneg) Farnaz Fassihi, "Can Iran, Israel and the U.S. Now All Claim to Have Won?", The New York Times (23 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2025.
  33. (Saesneg) "Israel, Iran trade deadly strikes for fourth day with no signs of restraint", Al Jazeera (16 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mehefin 2025.
  34. (Saesneg) Farnaz Fassihi, Leily Nikounazar, a Parin Behrooz, "Israeli Strikes Kill Civilians Across Iran", The New York Times (18 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Mehefin 2025.
  35. (Saesneg) Alexander Cornwell a Parisa Hafezi, "Iranian state broadcaster hit as Iran urges Trump to make Israel halt war", Reuters (16 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mehefin 2025
  36. (Saesneg) Derek Thomson a Paul Poirot, "Twelve-day war: Impact of Iran’s strikes censored by Israel", France24 (5 Awst 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Awst 2025.
  37. (Saesneg) "World reacts to Israeli attack on Iran over nuclear activity", Reuters (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2025.
  38. (Saesneg) "Nations react to US strikes on Iran with many calling for diplomacy", Associated Press (23 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mehefin 2025.
  39. (Saesneg) "Israel/Iran: Israel’s attack on Iran violates international law, threatening peace and security", Comisiwn Rhygwladol y Cyfreithegwyr (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Mehefin 2025.
  40. (Saesneg) Cathrin Schaer, "Israel's Iran attack sparks legal debate", Deutsche Welle (18 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mehefin 2025.
  41. (Saesneg) Lyse Doucet, "Where is Israel's operation heading?", BBC (16 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Mehefin 2026.
  42. (Saesneg) "Germany’s Merz says Israel is doing the ‘dirty work for all of us’ by countering Iran", The Times of Israel (17 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Mehefin 2025.
  43. (Saesneg) Benjamin Dodman, "Israel-Iran conflict ‘drives final nail in the coffin’ of postwar world order", France 24 (19 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mehefin 2025.
  44. (Saesneg) "President Milei: 'Iran is an enemy of Argentina'", Buenos Aires Times (20 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Ebrill 2026.
  45. (Saesneg) Aaron Pellish, "Trump embraces Israel after ‘successful’ Iran attack", Politico (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2025.
  46. (Saesneg) "Ukraine says US, Israeli strikes on Iran are justified to stop nuclear threat", The Times of Israel (22 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mehefin 2025.
  47. (Saesneg) Betsy Klein et al., "Trump warns Iran to agree to a deal ‘before there is nothing left’", CNN (13 Mehefin 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2025.