Y Rhai a Lwydda
Dyddiad cynharaf | 1972 |
---|---|
Awdur | Bernard Evans |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Drama lwyfan Gymraeg am ffurfio Undeb ymysg y Glowyr yw Y Rhai a Lwydda o waith Bernard Evans. Cafodd y ddrama ei llwyfannu ym 1972 gan "Y Theatr Ifanc" o dan adain Cwmni Theatr Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro, cyn mynd ar daith. Ni chafodd y ddrama ei chyhoeddi.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Cwmni Genedlaethol o Fyfyrwyr" oedd disgrifiad arall o'r cwmni ifanc, a'r cyfarwyddwr oedd Wynford Ellis Owen.[1]. Mae'r actor John Pierce Jones yn cofio'r cyfle gafodd o i ymuno â'r cynhyrchiad, yn ei hunangofiant:
"Dywedodd Wilbert [Lloyd Roberts] wrtha i fod Cwmni Theatr Cymru yn dechrau cwmni newydd i bobl ifanc a oedd yn astudio drama mewn colegau. Gofynnodd a oedd gen i ddiddordeb mewn cael fy ystyried ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf yn Eisteddfod Hwlffordd yr haf hwnnw. [...] Cefais gyfarfod efo Wynford [Ellis Owen] a chynigiwyd y brif ran i mi. Ro'n i ar ben fy nigon, a'm troed bellach ar ris ysgol y byd actio. Roeddem i ddechrau cael ein hyfforddi fis Gorffennaf 1972 yn ystafelloedd ymarfer y Cwmni Theatr yn y Tabernacl ym Mangor. [...] Dechreuais ymarfer efo'r Cwmni ar y bore Llun canlynol. Y peth cyntaf i'w wneud oedd cyfarfod yr actorion eraill - yn eu plith roedd Elliw Haf, Ian Saynor, Siôn Eirian, Malcolm (Slim) Williams, Emyr Glasnant, Dilwyn Young Jones ac actor ifanc o Fôn o'r enw Mei Jones. Cawsom wybod ein bod i berfformio am wythnos yn yr Eisteddfod cyn teithio o amgylch Cymru drwy'r mis Medi. Roeddan ni'n cael aros mewn gwestai a'n trin fel actorion proffesiynol. Doedd dim amheuaeth bellach: actor fyddwn i."[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cafodd y ddrama ei llwyfannu ym 1972 gan "Y Theatr Ifanc" o dan adain Cwmni Theatr Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro, cyn mynd ar daith. "Cwmni Genedlaethol o Fyfyrwyr" oedd disgrifiad arall o'r cwmni ifanc, a'r cyfarwyddwr oedd Wynford Ellis Owen. Ymysg y cast roedd Gwen Ellis a John Pierce Jones.
Yn y golofn Gymraeg Ar Y Bont, yn The Glamorgan Gazette yn Hydref 1972, ceir adolygiad o'r cynhyrchiad :
"ymwelodd Cwmni Theatr Cymru â Maesteg unwaith yn rhagor. Y ddrama y tro hwn oedd Y Rhai a Lwydda, drama newydd gan Bernard Evans, a dyna siom. Siom fod drama newydd a chwmni o bobl ifanc brwdfrydig a chylch eang, yn llwyddo i gael tua hanner cant o bobl i neuadd fawr Maesteg. [...] Yr oedd yn ddrama a fuasai wedi apelio at gynulleidfa yn y De. Rhoddai ddarlun o flynyddoedd cynnar Undeb y Gweithwyr ym Merthyr - cyfnod o siom ac aberth a chaledi a'r effaith a gafodd y gymdeithas hon ar yr unigolyn. Ond fel pob drama hanesyddol dda, yr oedd iddi apel gyfoes hefyd.[...] Gyda chyfuniad o gynhyrchu gwych ac actio diffuant cafwyd drama ddifyr a lliwgar ac ar rai adegau yn wefreddiol iawn."[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sep 15, 1972, page 18 - The Glamorgan Gazette at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ Jones, John Pierce (2015). Yr Hen Ddyddiau. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978 1 84527 348 4.
- ↑ "Oct 20, 1972, page 10 - The Glamorgan Gazette at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.