Neidio i'r cynnwys

Y Palas Grisial

Oddi ar Wicipedia
Y Palas Grisial
Mathpalas, tŷ gwydr, cyn-adeilad, adeilad digwyddiadau, lleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1851 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Mai 1851 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHyde Park, Llundain, Norwood Uchaf, Crystal Palace Edit this on Wikidata
SirDinas Westminster, Bromley, Kensington, Llundain Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4223°N 0.0758°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolglass architecture, Victorian architecture Edit this on Wikidata
Cost150,000 punt sterling Edit this on Wikidata
Deunyddgwydr, haearn, haearn bwrw, pren Edit this on Wikidata

Adeilad o haearn bwrw a gwydr plât a godwyd yn Hyde Park, Llundain, i gartrefu'r Arddangosfa Fawr oedd y Palas Grisial (Saesneg: the Crystal Palace). Cynhaliwyd yr arddangosfa rhwng 1 Mai a 15 Hydref 1851, a daeth mwy na 14,000 o arddangoswyr o bob cwr o'r byd i ddangos enghreifftiau o dechnoleg fodern ynddo. Roedd yr adeilad, wedi'i ddylunio gan Joseph Paxton, yn 1,851 troedfedd (564 m) o hyd, gydag uchder mewnol o 128 troedfedd (39 m) a chyda maint o 990,000 troedfed sgwâr (92,000 m2).[1] Roedd gan y Palas Grisial yr arwynebedd mwyaf o wydr a welwyd erioed mewn adeilad. Roedd ymwelwyr yn rhyfeddu at ei waliau a nenfydau tryloyw a oedd yn dileu'r angen am oleuadau mewnol. Ar ôl i'r arddangosfa ddod i ben cafodd y Palas ei symud i Sydenham Hill yn ne Llundain. Yno y safai o Fehefin 1854 hyd ei ddinistrio gan dân yn Nhachwedd 1936. Ailenwyd yr ardal breswyl gyfagos yn "Crystal Palace" ar ôl yr adeilad.

Tân 1936
Tân 1936

Ar ôl i'r Crystal Palace gael ei symud i Penge Place yn Ne Llundain, aeth i ben yn raddol. Ar 30 Tachwedd 1936, bu ffrwydrad y tu mewn i'r adeilad a galwyd y gwasanaeth tân. Roedd John Logie Baird wedi bod yn defnyddio rhan o’r adeilad ar gyfer arbrofion, ac roedd yn credu mai sabotage achosodd y tân.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hermione Hobhouse (2002). The Crystal Palace and the Great Exhibition of the Works of Industry of All Nations (yn Saesneg). London: Athlone. tt. 34, 36l. ISBN 0-485-11575-1.
  2. Richard G Elen. "Baird's independent television". Transdiffusion (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mawrth 2025.
Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.