Y Milwyr Du a Melyn
Milwr Du a Melyn ar gornel stryd yn Nulyn (Chwefror 1921). | |
| Enghraifft o: | Special Constabulary |
|---|---|
| Daeth i ben | 1922 |
| Dechrau/Sefydlu | 1919 |
| Enw brodorol | Royal Irish Constabulary Special Reserve |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01k78 |
Aelodau ychwanegol Cwnstablaeth Frenhinol Iwerddon (RIC) oedd y Milwyr Du a Melyn[1] (Saesneg: Black and Tans, Gwyddeleg: Dúchrónaigh) a recriwtiwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon (1919–21). O ganlyniad i brinder y wisg arferol, derbyniodd y recriwtiaid siacedi a throwsus caci a chapiau gwyrdd tywyll. Bu nifer ohonynt yn gyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf neu yn gyn-garcharorion. Ymatebasent i dactegau herwfilwrol yr y Fyddin Weriniaethol (IRA) dan arweiniad Michael Collins drwy dalu’r pwyth yn ôl yn aml yn erbyn y boblogaeth sifil. Ar Sul y Gwaed, 21 Tachwedd 1920, lladdwyd nifer o gudd-swyddogion y Fyddin Brydeinig gan yr IRA yn Nulyn, ac yn ddial aeth carfan o’r Filwyr Du a Melyn i gêm pêl-droed Wyddelig ym Mharc Croke a saethu ar y dorf, gan ladd 14 o bobl. Cafodd trefi cyfan eu brawychu, gan gynnwys Anrheithiad Balbriggan, Gwarchae Tralee, a Thân Corc. Bu’r fath gamdriniaethau ond yn cryfhau achos y Gweriniaethwyr yn Iwerddon, ac yn codi banllef o brotest ym Mhrydain ac yn Unol Daleithiau America. Enciliwyd y Milwyr Du a Melyn yn sgil arwyddo’r Cytundeb Eingl-Wyddelig ym 1921.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "tan: the Black and Tans".