Y Mellt
Gwedd
| Enghraifft o: | grwpiau cerddorol |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Genre | Pop Cymraeg, canu gwerin, middle of the road |
| Dynodwyr | |
- Peidied drysu â band arall o'r 2010au a 2020au o'r enw Mellt
Roedd y Mellt yn grŵp canu pop Cymraeg ysgafn o'r 1960au hwyr a'r 1970au cynnar. Roeddynt yn canu yn y traddodiad canu protest a gwladgarol cynnar yn nyll 'gitâr a harmoni' y cyfnod. Roeddynt yn dod o ardal Llanrwst.[1] Ail-ryddhawyd eu cân Mari, Mari ar albwm aml-gyfrannog Recordiau Sain 'Goreuon Sain' yn 2020.[2]
Anfarwolir y grŵp mewn clip archif gan raglen newyddion BBC Cymru, Heddiw o "Eisteddfod Bop" a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref, Dinbych, yn 1969. Ynddo gwelir clip o'r grŵp yn canu yn ogystal â deuawd benywaidd (di-enw) arall.[1]
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Elfed Williams - Prif ganwr, gitâr a chyfansoddwr
- Glyn Jenkins - Gitâr a llais
- George Jones - Drymiau a llais
Bleddyn Hughes - Rheolwr a threfnydd cerddorol
Aelodau gwreiddiol y Mellt oedd Elfed Williams, Rhianwen Williams, George Jones, Glyn Jenkins a Gwyndaf Williams.[1]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd y Mellt ddau record sengl.[3][4]
Senglau
[golygu | golygu cod]- Rhaid i Gymru Ddeffro! - (7", EP), Recordiau Tŷ ar y Graig, TAG 243 (1972)
- Mari, Mari - (7", EP), Recordiau Sain, Sain 36 (1973)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y Mellt - Eisteddfod Bop Dinbych - 1969 - Clip o raglen newyddion Heddiw