Neidio i'r cynnwys

Y Lefiathan

Oddi ar Wicipedia
Y Lefiathan
Enghraifft o:drama lwyfan
Dyddiad cynharaf1976
AwdurHuw Lloyd Edwards
CyhoeddwrGwasg Gee
Dyddiad cyhoeddi1977
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg olaf Huw Lloyd Edwards yw Y Lefiathan a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1976, wedi ei farwolaeth. Disgrifiwyd y ddrama fel "ffantasi mewn pum golygfa" yn Rhaglen y cynhyrchiad cyntaf.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Jonah
  • Y Dieithryn
  • Capten
  • Prys
  • Prydderch
  • Prothero
  • Nain
  • Cymdoges 1
  • Cymdoges 2
  • Jonah (yn fachgen)
  • Arweinydd Pentrefwyr Gath Heffer
  • Llanc
  • Rachel
  • Swyddog
  • Pennaeth Ninefe
  • Offeiriad
  • Mân gymeriadau eraill

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama wedi'i seilio ar hanes y proffwyd Jona o Gath Heffer, sydd wedi'i gynnwys yn Yr Hen Destament, Y Beibl, a'r anghenfil y Lefiathan. Hynt a helynt "y dyn bach distadl" sydd yma, ac yn ei freuddwyd yn "cael ei annog gan Y Dieithryn i ymgymeryd a chyfrifoldeb arbennig er budd ei gyfoedion".[1] Jonah Puw yw'r gŵr dan sylw, ac yn ei freuddwyd, mae'n gweld y fro yn debyg iawn i Gymru. "Tebyg hefyd yw'r bobl - rhai ydynt, fel llawer yng Nghymru heddiw [1976], â'u ffydd a'u cred mewn traddodiad a chrefydd yn pylu; rhai sydd mewn perygl cynyddol o weld gorseddu safonau estron sy'n gogoneddus maintoli a materoliaeth nihlistaidd Ninefe.", eglura J. O. Roberts yn y Rhaglen.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

"Dilyn y patrwm" llwyddiannus o'i ddrama flaenorol Llyffantod wnaeth Huw Lloyd Edwards gyda'r ddrama yma, gan greu gwaith i'w lwyfannu gan gast helaeth.[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru o dan gyfarwyddyd J. O. Roberts; cynllunydd Martin Morley; goleuo Mike Thomas; ffotograffiaeth Dave Lane. Adeiladwyd y set gan Glyn Richards ac Alan Jones. Rheolwyr Llwyfan Dewi Huws, Dafydd Williams a Tom Gwyn. Technegwyr Huw Roberts ac Emyr Morris-Jones. Gwisgoedd Gwyneth Roberts.

  • Jonah - Glyn Williams
  • Y Dieithryn - Grey Evans
  • Capten - John Pierce Jones
  • Prys - Dafydd Hywel
  • Prydderch - Dyfan Roberts
  • Prothero - Gwynfryn Roberts
  • Nain - Myfanwy Talog
  • Cymdoges 1- Elinor Wyn Roberts
  • Cymdoges 2 - Elfrys Jones
  • Jonah (yn fachgen) - Ian Selwyn Lloyd
  • Arweinydd Pentrefwyr Gath Heffer - Cefin Roberts
  • Llanc - Myrddin [Mei] Jones
  • Rachel - Sian [Maredydd] Morgan
  • Swyddog - Myrddin [Mei] Jones
  • Pennaeth Ninefe - Wyn Bowen Harries
  • Offeiriad - Cefin Roberts.
  • Rhannau eraill : Gwenda Davies, Nia Davies, Mair Gruffydd, Alwena Jones, Carys Rhys Jones, Elfrys Jones, Nerys Jones, Tesni Jones, Bethan Lloyd, Sian Morgan, Eleanor Roberts, Owenna Roberts, Ceri Thomas, Susan Wallace, Nerys Williams, Alun Huw Evans, Gareth Huw Evans, Wyn Bowen Harries, David Horman, Harry Bryn Jones, Myrddin Jones, Ian Selwyn Lloyd, Arwel Hughes Roberts, Cefin Roberts.
  • Dawnswyr : Gwenda Davies, Nia Davies, Sian Morgan, Eleanor Roberts, Ceri Thomas a Susan Wallace.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Rhaglen Y Lefiathan. Cwmni Theatr Cymru. 1976.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]